Mae cefn gwlad yn lle gwych i fynd a’ch ci am dro ond fe ddylid gwneud hyn mewn modd cyfrifol lle nad yw eich ci yn dod yn niwsans neu’n berygl i dda byw, bywyd gwyllt neu bobl eraill.
Gwnewch eich rhan a chadwch eich ci a bywyd gwyllt ac anifeiliaid y Tirwedd Cenedlaethol yn ddiogel. Sylwch y gallwch gymryd eich ci tywys ar sawl llwybr

- Cadwch eich ci ar dennyn – Mae hi bob amser yn syniad da cadw eich ci ar dennyn. Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gartref i fywyd gwyllt prin a phob math o dda byw. Cadw eich ci ar dennyn ydi’r ffordd orau o sicrhau bod eich ci ac anifeiliaid eraill yn ddiogel.
- Byddwch yn wyliadwrus – Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd. Ydych chi’n agos at dda byw, bywyd gwyllt neu grwpiau mawr o bobl? Allai eich ci gael braw neu fod yn beryglus i unrhyw un neu unrhyw beth?
- Baw cŵn – Dylech lanhau baw eich ci bob amser a’i waredu’n briodol. Peidiwch byth â gadael bagiau baw cŵn ger llwybrau.
Ydw i’n cael cymryd fy nghi i unrhyw le yn y Tirwedd Cenedlaethol?
Na, ni allwch gymryd eich ci unrhyw le yn y Tirwedd Cenedlaethol. Mae llawer o dir ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn breifat sydd heb fynediad i’r cyhoedd. Serch hynny, mae yna ddigonedd o lefydd gwych i fynd a’ch chi am dro. Gallwch fynd a’ch ci am dro ar unrhyw lwybr cyhoeddus neu dir mynediad agored.
Oes yna lefydd lle gallaf dynnu fy nghi oddi ar y tennyn yn y Tirwedd Cenedlaethol?
Y math o dir lle’r ydych chi’n cerdded gyda’ch ci sydd yn penderfynu a gewch chi dynnu eich ci oddi ar y tennyn. O fewn y Tirwedd Cenedlaethol, mae gan diroedd fathau gwahanol o ddarpariaeth mynediad. Darpariaeth mynediad sy’n pennu beth mae’r cyhoedd yn cael ei a pheidio ei wneud ar y tir.
Enw un math o ddarpariaeth mynediad yw ‘Tir Mynediad’ neu ‘Tir Mynediad Agored’. Os ydych chi’n mynd a’ch ci am dro ar Dir Mynediad Agored, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich ci ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf pan mae da byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear yn magu.

Enw math arall o ddarpariaeth agored yw ‘Hawl Tramwy Cyhoeddus’ sy’n cynnwys llwybrau cerdded cyhoeddus. Ar y llwybrau hyn, dim ond o dan ‘reolaeth agos’ mae eich ci angen bod, ac nid ar dennyn yn benodol. Serch hynny, sicrhewch fod eich ci ar dennyn byr bob amser os ydych chi’n mynd heibio da byw neu fywyd gwyllt, cŵn eraill ac ymwelwyr.
Cŵn a gweithgareddau amaethyddol
Ein cyngor cyffredinol i bob perchennog ci yw sicrhewch fod eich ci ar dennyn drwy’r amser pan fyddwch chi’n ymyl da byw.
Mae yna fathau penodol o weithgareddau y dylech gadw llygad amdanynt tra’n mynd a’ch ci am dro yn Nhirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae canran fawr o’r Tirwedd Cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol ac ar adegau penodol o’r flwyddyn, fe allech chi ddod ar draws perchnogion tir yn casglu eu da byw o’r ucheldiroedd. Rhowch eich ci ar dennyn yn syth pan welwch chi hyn er mwyn sicrhau diogelwch eich ci a da byw. Fe fydd y perchnogion tir yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad.

Tymor wyna
Mae’r tymor wyna rhwng mis Tachwedd a mis Mai. Hyd yn oed os nad yw’ch ci yn ymosod ar ddafad, fe all unrhyw fygythiad neu helfa achosi i’r fam adael yr oen sy’n ddinistriol ar gyfer y ddafad, y ffermwr, unrhyw un sy’n dyst iddo a’r diwydiant. Yn aml bydd mamau yn gadael i’w hŵyn guddio yn y grug a’r llystyfiant tra’u bod nhw’n pori, felly er eich bod yn meddwl mai dim ond chi sydd yno, fe ddylech gadw eich ci ar dennyn mewn ardaloedd amaethyddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod yma.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n dod ar draws gwartheg gyda fy nghi?
Efallai nad yw perchnogion cŵn yn ymwybodol o’r perygl penodol y gallai gwartheg eu hachosi, yn enwedig pan fo ganddynt loeau ifanc. Fe all eich ci ysgogi natur amddiffynnol mewn gwartheg. Fe ddylech geisio osgoi gwartheg gyda lloeau ifanc bob amser. Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o le iddynt wrth basio a chadwch eich di ar dennyn byr.
Os dônt ar eich hôl, dylech ryddhau eich ci oddi ar y tennyn ar unwaith a chanolbwyntio ar eich diogelwch eich hun. Mae’n debygol iawn y bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd ac yn dychwelyd atoch pan fyddwch yn ddiogel.
Sut allaf i sicrhau fy mod yn cadw fy nghi yn ddiogel os ydw i’n dod ar draws ceffylau?
Mewn rhai ardaloedd o Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fe allech chi ddod ar draws ceffylau gwyllt neu geffylau eraill. Nid yw ceffylau fel arfer yn achosi bygythiad i bobl ond efallai na fyddant yn hoffi eich ci, felly mae hi’n syniad i’w hosgoi nhw pan fo hynny’n bosibl.
Baw cŵn
Mae baw cŵn yn achosi perygl sylweddol i wartheg. Fe allai gwartheg gael eu heintio gyda pharasitiaid o faw cŵn sy’n achosi i wartheg adael eu lloeau.
Mae hi’n hollbwysig eich bod yn glanhau baw eich ci ac yn ei daflu’n gywir er mwyn sicrhau eich bod yn amddiffyn bywyd gwyllt, da byw a thirweddau’r Tirwedd Cenedlaethol.
Oes yna unrhyw gyfreithiau y dylwn i fod yn ymwybodol ohonynt tra’n mynd a fy nghi am dro?
Mae hi’n drosedd gadael eich ci i ymosod neu hel da byw o dan Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953, ac yn gyfreithiol fe all ffermwr saethu unrhyw gi sydd yn ymddwyn fel hyn heb rybudd nag unrhyw ffurf o iawndal i’r perchennog.
Gwyliwch y fideo yma sy’n dangos Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i godi eich awydd am antur.

