Wedi eu cuddio yn yr isdyfiant mae arwyddion bod y dirwedd yn arfer bod yn ferw o weithgarwch diwydiannol – yn gloddfeydd plwm, gweithfeydd haearn, chwareli a chamlesi. Gwahanol iawn i’r heddwch a’r tawelwch yr ydym yn ei fwynhau heddiw.

Treftadaeth Ddiwydiannol Parc Gwledig Loggerheads
Y plwm a’r dwr
Anodd credu heddiw fod y dyffryn tawel hwn yn lle diwydiannol iawn ers talwm, gyda’r olwynion dŵr, twneli, tramffyrdd, sianeli dŵr a’r tomennydd sbwriel niferus. Mae gan yr ardal hon hanes hir o fwyngloddio am blwm.
Ceir mwyn plwm mewn nifer o wythiennau yn y calchfaen sy’n rhedeg o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain, yn fras.
Mae llawer o domenni gwastraff ynghudd o dan y tyfiant, ond nid oes unrhyw beirianwaith mwyngloddio ar ôl. Yr adeilad amlycaf yw’r olwyn-pwll fawr, garreg yn ymyl y bont yn Loggerheads. Ers talwm roedd olwyn ddŵr 40 troedfedd mewn diamedr yn yr adeilad hwn. Gyrrwyd yr olwyn gan y dŵr o’r lît (sianel a dorrwyd gan bobl) oedd yn rhedeg o lyn y felin yn ymyl y maes parcio. Ar y lan ddwyreiniol erys olion pwll twrbein dwr a fyddai’n cael ei fwydo gan lît wahanol. Defnyddiwyd y twrbein a’r olwyn ddŵr i bwmpio dŵr o Gloddfa Glan Alun yn y 1860au.
Un atgof o’r gorffennol diwydiannol yw Ceudwll y Diafol a ffurfiwyd pan gloddiwyd gwythïen lydan o spar gwyn yn ystod yr 19eg ganrif.
Melin Pentre
Defnyddid dŵr i yrru nifer o’r melinau ar yr Afon Alun. Mae Melin Pentre, yn y Parc Gwledig, yn dyddio o leiaf o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yn wreiddiol, melin ŷd oedd hi a melin coed ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ychwanegwyd deinamo yn y 1920au i ynhyrchu trydan i’r tai lleol. Byddai’r bobl leol yn dod â’u batris i’r felin i’w llenwi!
Chwarela
Agorwyd chwarel calchfaen Cefn Mawr, i’r gogledd ddwyrain o’r Parc Gwledig ar ddiwedd y 1940au i gyflenwi calchfaen i’r gwaith sment yn Padeswood, y gwaith sment cyntaf i’w adeiladu yn y DU ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae’r chwarel yn dal i ddarparu cerrig ar
gyfer y gwaith sment, a rhoesant gerrig yn rhodd i’r Parc Gwledig I ailadeiladu waliau cerrig a gwella’r llwybrau. Hefyd, mae dwy chwarel fechan segur o fewn ffiniau’r Parc a fu’n gweithio ar raddfa lai. Llosgwyd calchfaen o’r hen chwarel yn yr odyn gyfagos i gynhyrchu calch ar gyfer morter ac i chwalu ar y caeau i felysu’r pridd. Ar ddiwedd y 19eg ganrif daeth mwynwyr plwm o hyd i ddyddodion gwerthfawr o dywod silica pur iawn ac o glai tân yng nghloddfa Glan Alun.
Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas
Gwyliwch y ffilm hon, Bywyd wrth y Dŵr, i weld uchafbwyntiau’r 11 milltir o gamlas a chefn gwlad trawiadol sy’n ymestyn dros ddwy wlad, ar hyd traphontydd dŵr, twneli a thraphontydd.

Rhaeadr y Bedol
Cafodd y gored gain siâp pedol hon, sy’n 140m o hyd, ei dylunio gan Thomas Telford. Cafodd ei chwblhau yn 1808 gyda’r bwriad o ddargyfeirio dŵr o Afon Dyfrdwy i fan cychwyn Camlas Llangollen. Mae’n gampwaith peirianyddol trawiadol ond yr hyn sy’n rhyfeddol yw ei bod yn ychwanegu at harddwch y tirlun cyfagos, er gwaethaf ei phwrpas diwydiannol.
Oeddech chi’n gwybod
Mae dolydd llethrog esmwyth o bopty i’r rhaeadr, a choed hynafol a da byw lle mae cenedlaethau o bobl wedi bod yn dod i fwynhau’r golygfeydd gyda phicnic.
Gyda’r gostyngiad yn y defnydd o gamlesi at ddibenion masnachol, dirywiodd cyflwr llawer ohonynt ac fe’u collwyd. Mae Camlas Llangollen wedi goroesi oherwydd bod y dŵr a dynnir o Afon Dyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol nid yn unig yn bwydo i mewn i rwydwaith o gamlesi eraill, ond hefyd yn cyflenwi dŵr i Swydd Gaer hyd heddiw. Yn 2009 dynodwyd bod Rhaeadr Y Bedol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte gan UNESCO.
Gallwch groesi’r sianel wrth Dŷ’r Mesurydd sy’n rheoleiddio dros 12 miliwn galwyn o ddŵr a dynnir o’r afon i’r gamlas bob dydd. Ewch ar hyd llwybr tynnu’r gamlas i Langollen sydd llai na dwy filltir i ffwrdd, ac o’r fan honno gallwch barhau i archwilio Safle Treftadaeth Y Byd trwy fynd ar fordaith gamlas hamddenol o Lanfa Llangollen ac ar draws Traphont Ddŵr Pontcysyllte – un o’r teithiau camlas mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.
Oeddech chi’n gwybod
Gallwch weld Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Rhaeadr y Bedol ar y daith hedfan rithwir ysblennydd hon o Ddyffryn Dyfrdwy.
Parc Gwledig y Mwynglawdd
Mae Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Dyffryn hardd Clywedog. Mae’r Mwynglawdd wedi’i leoli ym mhen draw’r dyffryn ac mae’n fan cychwyn da i fwynhau’r cefn gwlad cyfagos, gan gynnwys Mynydd y Mwynglawdd ar gyfer cerddwyr brwd.
Mae Parc Gwledig y Mwynglawdd yn cwmpasu 53 acer o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol ac yn cynnwys amrywiaeth wych o fywyd gwyllt a chyfleoedd diddiwedd i archwilio ardal o hedd a thawelwch.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy neu i gynllunio ymweliad â Minera.
Parc Gwledig Tŷ Mawr
Gorweddai Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau afon Dyfrdwy, o dan fwâu carreg trawiadol Traphont Cefn.
Mae’r Parc Gwledig yn gartref i anifeiliaid fel mulod, moch a geifr, a hyd yn oed lamas. Gall teuluoedd ymweld â’r anifeiliaid a bwydo’r hwyaid a’r ieir rhydd. Mae’r parc hefyd yn gartref i lawer o flodau ac anifeiliaid gwyllt, adar a phryfaid sy’n ffynnu ar y tir na welai unrhyw blaladdwr gyda chemegau niweidiol.

Yn yr haf mae’r dolydd gwair yn llawn lliw a gall teuluoedd ddod yma i ymlacio a mwynhau picnic a’r golygfeydd godidog.
Mae Tŷ Mawr yn lle delfrydol i gerdded, pa un ai ydych chi’n mynd am dro o amgylch y parc neu’n dod yma i gychwyn taith hirach fel Llwybr Treftadaeth Cefn Mawr. Mae’r llwybr yma’n mynd â chi ar daith i bentref hanesyddol Cefn Mawr ac yn gyfle i chi archwilio’i dreftadaeth ddiwydiannol bwysig a mwynhau golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Dyfrdwy.
Roedd Cefn Mawr yn dref newydd a grëwyd gan y cyfleoedd a ddaeth gyda’r gamlas, pan dyfodd anheddiad o gwmpas y chwareli cerrig, gwaith haearn, clai a phyllau glo. Y tu ôl i’r brif stryd drwy Gefn Mawr oedd y dramffordd. Yn wir, tramffyrdd oedd y rhan fwyaf o strydoedd Cefn Mawr yn wreiddiol
Mae Tŷ Mawr ryw filltir i ffwrdd o Draphont Ddŵr Pontcysyllte, nodwedd allweddol yn Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Chamlas Llangollen – dilynwch y llwybr ar hyd glannau afon Dyfrdwy i gyrraedd yma.
Yn ddiddorol iawn, cafodd yr asennau ar gyfer bwâu Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte eu bwrw yn ffowndri haearn Plas Kynaston gan William Hazeldine yng Nghefn Mawr.
Moel Fferna
O ben Moel Fferna – man uchaf Llwybr Gogledd y Berwyn – ymestynna’r bryniau grugog i bob cyfeiriad. Mae golygfeydd am bellter; tua’r Gogledd i Fynyddoedd Llantysilio a Moelydd Clwyd, i’r Gorllewin tua’r Arennig, ac i’r De i Fryniau’r Berwyn.
Yn uchel ar lethrau’r bryn, y tu isaf i gopa Moel Fferna, mae clwstwr o adfeilion a thomenni llechi sy’n ymestyn fel bysedd o’r gweithfeydd
canolog. Dyma’r cyfan sydd ar ôl o chwarel lechi Moel Fferna. O dan y ddaear y cloddiwyd am y llechi a hynny drwy ffrwydro’r graig yn ofalus gan greu agorydd anferth oedd fel ogofeydd tanddaearol. Byddai’r darnau o lechfaen yn cael eu hollti er mwyn iddynt fod yn haws eu rhoi mewn wagenni a fyddai’n cael eu gwthio i’r wyneb drwy’r lefel hir. Caent eu hollti a’u naddu’n llechi yn y felin fawr.
Yn is i lawr y bryn roedd Chwarel Slabiau Glannau Dyfrdwy. Chwarel agored oedd hon, a gallwch weld wyneb y graig lle tynnwyd y llechfaen ohoni. Defnyddiwyd y slabiau i wneud byrddau llawdriniaeth, fatiau chwisgi, cerrig beddi, ac i adeiladu.
Ar eu hanterth yn 1901, roedd y chwareli hyn yn cyflogi dros 200 o ddynion a arferai gerdded i fyny i’r mynydd bob dydd o Garrog ac o Lyndyfrdwy. Yn raddol, lleihaodd y galw am lechi ac fe gaeodd y chwarel slabiau yn 1923 ar ôl damwain angheuol pan fu farw dau o’r tri gweithiwr oedd yn dal i weithio yma.
Parhaodd Chwarel Moel Fferna am gyfnod hirach gan gau yn 1960 am ei bod hi’n anodd cael chwarelwyr i weithio yma ac am fod y cystadlu yn erbyn teils a fasgynyrchwyd yn cwtogi’r elw.
Mae’r llechi tywyll a gloddiwyd o’r graig yn yr ardal yma yn rhai salach na llechi’r chwareli
mawr yng Ngwynedd. Mewn lleoedd oer a gwlyb maent yn malu ac yn troi’n ôl i lwch yn
y diwedd. Gallwch weld enghreifftiau o’r llechi chwilfriw ymhobman yma. Allforiwyd llawer o lechi to i’r gwledydd poeth ble roeddynt yn para’n hirach.
Gallwch archwilio’r ardal hon ymhellach drwy ddilyn Llwybr Sain Glyndyfrdwy Nant Y Pandy.

