Shopping Cart

No products in the cart.

Hanes a Threftadaeth

Mae harddwch a chymeriad syfrdanol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn fwy na chanlyniad harddwch natur. Yr hyn a welwn o’n cwmpas yw cynnyrch miloedd o flynyddoedd o ddylanwad dynol; cenedlaethau sydd wedi meddiannu a gweithio’r tir.

Mae ffermio, mwyngloddio am fwynau neu gerrig, adeiladu aneddiadau, cestyll ac addoldai i gyd wedi siapio tirweddau cyfarwydd heddiw, gan gyfrannu at gyfoeth diwylliannol a chymeriad lleol unigryw.

Mae ein treftadaeth nid yn unig i’w chael mewn amgueddfeydd, ond mae’n parhau i fod yn rhan o’r dirwedd, i’w gweld mewn eglwysi a chaerau, adfeilion a henebion a hefyd yn y mynyddoedd, y caeau a’r cymoedd sy’n aros i gael eu darganfod.

Weithiau mae’r profiad yn ysblennydd – sefyll ar ragfuriau bryngaer o Oes yr Haearn neu’n croesi’r gamlas fordwyol uchaf yn y byd yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte. Ar adegau eraill, gall atgofion tawel o’r gorffennol basio heb i neb sylwi – wal gerrig sych sydd wedi sefyll ers dwy ganrif, hen odynau calch neu dai injan a welir trwy lystyfiant.

Bob dydd, mae’r atgofion hyn o’r gorffennol yn ein cysylltu â’r cymunedau sy’n dal i fyw ac yn gweithio yn yr TC, gan fynd o gwmpas eu busnes yn union fel y maent wedi’i wneud ers milenia.

Oeddech chi’n gwybod

Wrth gerdded drwy tanffordd cerddwyr gorsaf y Berwyn byddwch yn gweld gweddillion graffiti a adawyd gan filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu ffordd i’r ffrynt.

Mae nifer o’n safleoedd treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae rhai yn meddiannu llwyfan y byd, gan gynnwys un tirnod o beirianneg Sioraidd, sydd yn ôl UNESCO yn cyfateb â’r Pyramidiau a’r Taj Mahal.

Taith hedfan rithwir ysblennydd o Ddyffryn Dyfrdwy yn y gorffennol a’r presennol.

Rydym wedi tynnu sylw at ychydig o lefydd sydd ag arwyddocâd hanesyddol yr ydym yn credu sy’n amhosib eu methu, ond mae nifer mwy i chi eu hymchwilio. Safleoedd sy’n dangos dylanwad ar y dirwedd o’r Rhufeiniaid, cynhanes, llefydd sanctaidd, y chwyldro diwydiannol, a mwy – beth bynnag yr ydych yn frwdfrydig amdano, mi wnewch chi ddod o hyd i rywbeth ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddod a chanrifoedd o dreftadaeth eithriadol i flaenau eich bysedd.

Steam train on Cefn Viaduct

Treftadaeth Ddiwydiannol

Wedi eu cuddio yn yr isdyfiant mae arwyddion bod y dirwedd yn arfer bod yn ferw o weithgarwch diwydiannol – yn gloddfeydd plwm, gweithfeydd haearn, chwareli a chamlesi. Gwahanol iawn...

Plas Newydd

Treftadaeth Ddiwylliannol

Am ganrifoedd mae ein tirwedd wedi bod yn gefndir i gelf a diwylliant unigryw, sydd yr un mor werthfawr â’r copaon grugog a’r adfeilion hanesyddol hudolus.

Dinas Bran

Cestyll a Safleoedd Hanesyddol

O adfeilion sy'n dadfeilio i gaer ganoloesol ysblennydd mae llawer i'w ddarganfod.

Penycloddiau

Bryngaerau

Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, mewn lleoliadau amlwg ar ben bryniau ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, roedd cymunedau’n adeiladu pentrefi gydag amddiffynfeydd o’u hamgylch.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.