Shopping Cart

No products in the cart.

Newid Hinsawdd

Newid hinsawdd, Isadeiledd Gwyrdd a Rheoli Llifogydd Naturiol.

Mae newid hinsawdd yn effeithio arnom ni i gyd ac mae ei effeithiau’n dod yn fwy gweladwy o’n cwmpas o ddydd i ddydd. Ochr yn ochr â’r digwyddiadau tywydd eithafol sy’n achosi mwy o lifogydd, sychder, tonnau gwres a thanau gwyllt, mae newidiadau cynnil yn digwydd ar draws Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n peri bygythiadau i rinweddau arbennig y dirwedd a ddiogelir hon.

Moel Morfydd

Mae’r gofodau gwyrdd, coed trefol ac afonydd, nentydd a llynnoedd yn ffurfio rhwydwaith gyfoethog o ‘Isadeiledd Gwyrdd’ o amgylch y Dirwedd Genedlaethol. Trwy ddiogelu, adfer ac ychwanegu at y rhwydwaith hwn, gallwn gefnogi bioamrywiaeth, iechyd a lles cymunedau lleol a helpu i arafu llif dyfroedd llifogydd gan leihau effaith digwyddiadau llifogydd mawr.

Mae llifogydd yn effeithio ar sawl preswylydd, busnes ac ymwelydd y Dirwedd Genedlaethol ac mae’n cael effaith drychinebus ar nifer o’n cynefinoedd pwysig. Gall ymagweddau rheoli llifogydd naturiol (NFM) gynorthwyo i leihau effaith digwyddiadau llifogydd wrth greu cynefinoedd newydd, gwella ansawdd dŵr a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol. Yn aml mae’r ymagweddau rheoli llifogydd naturiol hyn yn cynnwys dulliau syml o arafu dyfroedd er mwyn bod o fudd i’r dirwedd y mae’n teithio drwyddi (drwy hydradu da byw, cnydau a phlanhigion) wrth leihau effaith negyddol gormod o ddŵr ymhellach i lawr yr afonydd.

Yn adran prosiectau’r wefan gallwch ddysgu mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, i wella ein Hisadeiledd Gwyrdd ac i leihau effaith llifogydd drwy brosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol ar draws y Dirwedd Genedlaethol.

Gwarchod y Dirwedd ac Adfer Byd Natur mewn Hinsawdd sy’n Newid (pdf)

Tirwedd Hygyrch ac Adfer Byd Natur mewn Hinsawdd sy’n Newid (Accessible version pdf)

Mae newid hinsawdd yn peri bygythiadau amrywiol i’n Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rhai y gallwn baratoi ar eu cyfer a’u lliniaru.  Mae’r ddogfen hon yn archwilio’r Dirwedd Genedlaethol yn ôl math o dirwedd gan nodi’r prif flaenoriaethau a’r heriau y mae pob tirwedd yn eu hwynebu cyn mynd ymlaen i nodi sut all yr hinsawdd sy’n newid effeithio ar y dirwedd, pa fesurau lliniaru y gallwn eu cymryd ac yna canolbwyntio ar y risgiau allweddol a’r addasiadau y gallwn eu gwneud i leihau effaith a difrifoldeb newid hinsawdd.  Mae hon yn ddogfen ar gyfer rheolwyr tir, grwpiau cymunedol, y rhai sy’n creu polisïau ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nhirweddau Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

No items found

Latest News & Events


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.