Shopping Cart

No products in the cart.

Archwiliwch ein Parciau Gwledig

Rydym ni’n lwcus iawn bod gennym ni dri pharc gwledig yma yn yr Tirwedd Cenedlaethol, pob un gyda chymeriad unigryw, ond y cyfan â llawer i’w gynnig.

Rydym hefyd yn diogelu a chadw casgliad o safleoedd eraill o amrywiol faint, ond pob un â gwerth cadwraethol arbennig. Cewch fwy o wybodaeth isod. 

Oeddech chi’n gwybod

Mae’r Parciau Gwledig a safleoedd eraill yn gartref i rai o anifeiliaid a phlanhigion mwyaf prin y DU, gan gynnwys y grugiar ddu, y fadfall ddŵr gribog a gerddinen wen Llangollen.

family walking Moel Famau

Ymweld â Pharc Gwledig Moel Famau

Mae’r enw Cymraeg, Moel Famau, sy’n cyfeirio at y copa fel mam y mynyddoedd yn un addas – mae’n 554m (1818ft) a dyma’r copa uchaf o blith Bryniau Clwyd.

Castell Dinas Brân

Ymweld â Chastell Dinas Brân

Ychydig sy’n weddill o’r hyn a fu unwaith yn gaer wych ond mae’r adfeilion dramatig yn sefyll yn goron ar y bryn uwchlaw Llangollen o hyd.

Horseshoe Falls

Ymweld â Rhaeadr y Bedol

Rhaeadr y Bedol yw’r man lle mae Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas yn dechrau.

Visitors at Plas Newydd

Ymweld â Phlas Newydd

Ymweld â Thŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd, Llangollen.

Bluebells

Safleoedd Cefn Gwlad Eraill i Ymweld â Nhw

Dewch i fwynhau trysorau cudd ein Tirwedd Cenedlaethol, o goetiroedd hynafol i fryniau eang sy’n gyfoeth o hanes diwylliannol ac yn llawn harddwch naturiol eithriadol.

Loggerheads Country Park viewpoint

Ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads gyda’i ddyffryn afon coediog, ei glogwyni dramatig a’i frigiadau yn wych ar gyfer mynd am dro bach, ac yn lle delfrydol i gychwyn crwydro Bryniau Clwyd.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.