Mae rheolaeth Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei lywodraethu gan Gyd-Bwyllgor ac mae ei lwyddiant yn dibynnu ar bartneriaethau cryf gyda chymunedau, gwirfoddolwyr, ffermwyr a pherchnogion tir a sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW. Rydym oll yn cydweithio gyda’r un nod o wella ein hamgylchedd a’i wneud yn fwy hygyrch.
Cydbwyllgor
Ffurfiodd y tri Awdurdod Lleol, sef Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint, gytundeb cyfreithiol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Tirwedd Cenedlaethol ar y cyd drwy Gydbwyllgor yn haf 2014. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Arweiniol o bob Awdurdod Lleol ac mae ganddo bŵer i weithredu ar ran yr Awdurdodau Lleol hynny i gyflawni dibenion y Dirwedd Cenedlaethol. Caiff ei gefnogi gan Weithgor o swyddogion perthnasol o’r Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth y Dirwedd Cenedlaethol.
Partneriaeth y Dirwedd Cenedlaethol
Mae Partneriaeth y Dirwedd Cenedlaethol yn atebol i’r Cydbwyllgor am ddatblygu a chyflawni Cynllun Rheoli’r TC. Cafodd ei sefydlu er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o fuddion yn cael eu cynrychioli wrth gynllunio a chyflawni gwaith yr DC. Mae 25 aelod yn cynrychioli’r cymunedau trefol a gwledig sy’n rhan o’r DC, tri o aelodau awdurdodau lleol o bob un o’r awdurdodau partner, perchnogion tir, hamdden, mynediad a diddordebau arbennig eraill megis bioamrywiaeth a’r amgylchedd hanesyddol.
Mae gweithgor wedi’u sefydlu er mwyn helpu i ganolbwyntio gwaith y Bartneriaeth ar gyflawni Cynllun Rheoli’r Tirwedd Cenedlaethol, sef:
- Tirlun, Cymeriad ac Amgylchedd Adeiledig
- Rheoli Tir a’r Amgylchedd Naturiol
- Amgylchedd Hanesyddol
- Iechyd, Hamdden a Mynediad
- Busnes a Thwristiaeth Gynaliadwy
- Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
Mae modd i bob Gweithgor ymestyn eu haelodaeth y tu hwnt i’r bartneriaeth a chyfethol aelodau o gyrff perthnasol i roi cyngor ar agweddau arbennig o waith. Er enghraifft, mae’r Grŵp Rheoli Tir a’r Amgylchedd Naturiol yn cynnwys Swyddogion Bioamrywiaeth o bob un o’r Awdurdodau Lleol yn ogystal â swyddogion o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Yn yr un modd, mae Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol wedi cyfethol cynrychiolaeth gan CADW, y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys.
Ein partneriaid allweddol
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o grwpiau a sefydliadau i ddarparu prosiectau a gwelliannau o amgylch y DC, gan gynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir Fflint
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- CADW
- Cadwyn Clwyd
- Iechyd Cyhoeddys Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
- Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyswllt hanfodol rhwng y Dirwedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori ar bolisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid craidd ar gyfer gwaith prosiect a staff. Mae’r swyddogion yn gweithio’n agos gyda ni yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.
Ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn cynorthwyo i ddarparu prosiectau cymunedol mewn pedwar coedwig ym Mryniau Clwyd: Moel Famau, Llangwyfan, Nercwys a Phen y Pigyn.
Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Sefydlwyd yr elusen Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn 2015 gyda chymorth gan dîm y Dirwedd Cenedlaethol er mwyn helpu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i ddarganfod a mwynhau nodweddion arbennig y Dirwedd Cenedlaethol. Bellach mae mwy na 200 o aelodau ac maent yn helpu tîm y DC gyda digwyddiadau a phrosiectau, gan gynnig eu rhaglen ddigwyddiadau eu hunain a chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd.
Gwirfoddolwyr
Mae nifer o bobl ar draws y DC a thu hwnt yn rhoi ei hamser yn rheolaidd er mwyn cymryd rhan yn ein rhaglen o dasgau ymarferol, yn amrywio o godi wal gerrig a phlygu gwrych i gyfri’r rugiar ddu. Yn syml, ni all ein gwaith ddigwydd heb eu cymorth. Gallwch chi gymryd rhan yn ein hystod o weithgareddau gwirfoddoli: darganfyddwch fwy.

