Llangwyfan
Mae Llangwyfan yn bentrefan i’r gorllewin o fryngaer Moel Arthur.
Wedi’i chuddio yn y pentrefan ynysig hwn, mae adfeilion Ysbyty Llangwyfan. Fe’i hadeiladwyd gan Gymdeithas Genedlaethol Cofebion Cymru Brenin Edward VII rhwng 1918 ac 1920 er mwyn trin tiwbercwlosis. Yn 1923, adeiladwyd Ysgol Ysbyty Llangwyfan hefyd. Yn dilyn datblygiad gwrthfiotigau effeithiol, caewyd yr ysgol yn 1980, gyda’r ysbyty i ddilyn yn 1981.
Llangynhafal
Mae pentref Llangynhafal i orllewin Bryniau Clwyd; yn hanesyddol roedd canolbwynt y pentref o amgylch corff Eglwys ganoloesol Sant Cynhafal, a oedd yn cael ei hymweld yn aml gan William Wordsworth pan roedd yn aros gerllaw ym Mhlas-yn-llan. Mae’r ffocws heddiw ar Fferm Carneddau a Thafarn y Golden Lion.
Dysgu mwy:
Mae nifer o fryngaerau yn ardal hon Bryniau Clwyd, gan gynnwys Moel y Parc, a Phenycloddiau, a Moel Arthur, dau o fryniau statws Marilyn ym Mryniau Clwyd. Penycloddiau yw’r mwyaf o’r bryngaerau ym mryniau Clwyd, gyda sawl ffos a rhagfur consentrig.
Dysgu mwy:
Cilcain
Mae pentref prydferth Cilcain wedi’i leoli i ddwyrain bryniau Clwyd rhwng Moel Arthur a Moel Famau (bryn statws Marilyn arall). Mae gan y pentref hanes amaethyddol cryf, a hanes diwydiannol o gloddio am blwm.
Lleolir tafarn y White Horse, sy’n dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sgwâr y pentref.

Ar y Sgwâr hefyd mae eglwys ganoloesol y Santes Fair, sef adeilad hanesyddol a restrwyd fel un o’r can eglwys orau yng Nghymru. Mae to trawst gordd anhygoel gydag angel arno, darnau sylweddol o wydr lliw, cerrig hanesyddol a golygfeydd godidog. Gweler Capel Gad gerllaw hefyd, sef capel Presbyteraidd. Mae’r ddwy eglwys yn cynnwys cofebion unfath sy’n coffau saith o ddynion Cilcain a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Neuadd Pentref Cilcain yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau lleol. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1842 fel ysgol y pentref, ac fe’i prynwyd gan y Cyngor Cymuned yn 1979. Mae’r Neuadd yn cael ei rheoli gan bwyllgor rheoli gwirfoddol, ac yn gartref i’r Siop Gymunedol a chaffi bychan.
Defnyddiwyd rhan o afon Nant Gain, tu allan i bentref Cilcain, i greu cronfa ddŵr, drwy adeiladu dau argae ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg i gyflenwi dŵr yfed i’r ardal leol. Yn 2024, adferwyd yr afon i lifo ar hyd ei chwrs naturiol. Roedd y broses adfer yn cynnwys tynnu strwythurau’r argae yn y cronfeydd dŵr, a chreu sianel newydd ar gyfer gwely’r afon, gan ei hadeiladu i efelychu beth a fyddai wedi bod cyn adeiladu’r argaeau.
Mae Cilcain yn gartref i fenter gymdeithasol a reolir gan y gymuned, sy’n darparu cyfle i’r aelodau i helpu gyda chynhyrchu eu bwyd ei hunain.
Dysgu mwy:

