Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 390 cilomedr sgwâr o rai o dirluniau mwyaf bendigedig y DU.
O lethrau arfordirol Llechweddau Prestatyn yn y Gogledd i Fryniau anghysbell y Berwyn a Thraphont Ddŵr a Chamlas yn y De, mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dirlun o wrthgyferbyniad sy’n aros i gael ei darganfod. Mae Bryniau Clwyd i’r Gogledd yn gadwyn anhygoel o gopaon grug gyda bryngaerau’r Oes Haearn. I’r De, mae rhosydd Llandegla yn cynnwys Mynydd Rhiwabon a chlogwyni carreg galch anhygoel sgarp Eglwyseg. Yma mae Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys tirlun canoloesol, gyda gweddillion Castell Dinas Bran, Piler Eliseg ac Abaty Glyn y Gors a Chastell y Waun sy’n gwarchod y fynedfa i’r dyffryn i’r Dwyrain. Mae Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, nawr yn Safle Treftadaeth y Byd, yn heneb i orffennol diwydiannol y Dirwedd Genedaethol.

Mae’r Tirwedd Cenedlaethol yn dod o fewn rhannau o’r siroedd yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, o fewn cyrraedd i bob rhan o’r DU, ac wedi’i lleoli’n unigryw i chi ddarganfod amrywiaeth cyfoethog o dirlun, hanes a diwylliant.
Cafodd Bryniau Clwyd eu dynodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf 1985 o dan y Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Ym mis Tachwedd 2011, roedd Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau estyniad deheuol i gynnwys Dyffryn Dyfrdwy o Gorwen i’r Waun.
Beth yw Tirwedd Cenedlaethol?
Arferai Tirwedd Genedlaethol gael ei galw yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nes newid enw yn 2023.
Rhan ddynodedig o’n tirlun sydd â chymeriad, harddwch a threftadaeth ddiwylliannol mor werthfawr mae’n cael ei gwarchod er budd cenedlaethol. Mae amddiffyn yn diogelu ac yn gwella harddwch naturiol, cymunedau a busnesau, a saernïaeth ac archaeoleg unigryw yr ardal.
Mae yna 46 Tirwedd Cenedlaethol yn y DU ac mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o 5 yng Nghymru.
Beth sy’n gwneud Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig?
Mae’r porth gwych hwn i Ogledd Cymru yn lle i’w archwilio drwy pa bynnag fodd y gallwch. Efallai mai llonyddwch y diffeithwch anghysbell, neu’r golygfeydd gwych o lawer o’r copaon. Efallai mai’r hanes hynafol, y gweddill i’w gweld yn yr archaeoleg, gweddillion a saernïaeth drwy’r Tirwedd Cenedlaethol. Neu’r bywyd gwyllt mewn cynefinoedd naturiol sy’n denu pobl i fyw, gweithio ac ymweld? Beth bynnag ydyw, mae gennym ddyletswydd i ddarparu mynediad tra’n cynnal ein daearyddiaeth, fflora a ffawna – a’n pentrefi – i genedlaethau eu mwynhau.

Mae cymeriad unigryw’r dirwedd o fewn Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig, adnabyddadwy a chydag elfennau naturiol ac o law dyn. Mae tirweddau’r ardal yn amrywio oherwydd bod daeareg, bioamrywiaeth, edrychiad, archeoleg, hanes a diwylliant yn amrywio o le i le. Mae’r rhyngweithio rhwng pobl a’u hamgylchedd yn gwneud yr Dirwedd Genedlaethol yn lle i bobl fyw a gweithio ynddo, yn ogystal â lle i bobl dreulio eu hamser hamdden.
Darganfod mwy:

