Sicrhau bod dibenion y Dirwedd Genedlaethol yn cael eu cyflawni tra’n cyfrannu at nodau ac amcanion strategaethau eraill ar gyfer yr ardal.
Dogfennau’r Cyfarfod Diwethaf

Dogfennau’r Cyfarfod Diwethaf: Medi 10th 2025
Cynlluniau a Strategaethau
Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae’r strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy yn y Dirwedd Genedlaethol – gan ystyried yn llawn yr angen i warchod amgylchedd arbennig yr ardal a’i threftadaeth a chynnal ansawdd bywyd cymunedau lleol.
Gweledigaeth Twristiaeth
Mae’r weledigaeth yn cydnabod;
- y nifer gynyddol o bobl sy’n cymryd rhan mewn hamdden awyr agored, sy’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar ecosystemau bregus a gwerthfawr
- yr heriau rhanbarthol a byd-eang sy’n codi o argyfyngau hinsawdd a natur
- yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil yr argyfwng costau byw a thueddiadau mewn twristiaeth ar ôl Covid-19
- y statws Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer ardal sy’n cynnwys TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae’r Weledigaeth hon yn cydnabod bod cymunedau/diwylliant, tirwedd ac amgylchedd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ganolog i gynnig twristiaeth yr ardal ac yn diffinio sut y gall rheoli a darparu twristiaeth hyrwyddo a darparu profiadau o natur unigryw a harddwch yr ardal wrth warchod a gwella ei rinweddau arbennig hefyd.
Mae Cynllun Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (2023-2028) yn cynrychioli dechrau’r daith i gyflawni’r weledigaeth. Mae’r gweithgareddau a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu yn cynrychioli dechrau heriol ond pragmatig.
Strategaeth Newid Hinsawdd

Gwarchod y Dirwedd ac Adfer Byd Natur mewn Hinsawdd sy’n Newid
O’r dudalen hon gallwch ddysgu mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, i wella ein Hisadeiledd Gwyrdd ac i leihau effaith llifogydd drwy brosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol ar draws y Dirwedd Genedlaethol.
Isadeiledd Gwyrdd yn Llangollen
Mae canllaw gwyrdd wedi cael ei gyhoeddi i greu syniadau ar gyfer gwella amgylchedd y dref.
Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cyhoeddi canllaw â darluniau i gyfleoedd ar gyfer mentrau Isadeiledd Gwyrdd yn Llangollen. Yn dilyn cyhoeddiad Tirwedd Cenedleathol 2021 ‘Adferiad Natur a Thirlun mewn Hinsawdd sy’n Newid’, mae’r canllaw newydd yn edrych ar gyfleoedd i ychwanegu at rwydwaith Isadeiledd Gwyrdd presennol Llangollen i reoli, lleihau ac addasu’r bygythiadau y mae newid hinsawdd yn ei achosi.
Wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol ac wedi’i arwain gan swyddog arweiniol newid hinsawdd Tirwedd Cenedlaethol, mae’r canllaw yn nodi chwe lleoliad poblogaidd yn y dref a sut fyddent yn elwa o ychwanegiadau Isadeiledd Gwyrdd. Mae pob un lleoliad wedi cysylltu â’i gilydd gan lwybr Isadeiledd Gwyrdd sydd yn goridor gwyrdd heb draffig yn bennaf, a ddylai annog teithio llesol.
Mae’r canllaw yn edrych ar y sefyllfa bresennol yn y dref, yn nodi egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i ddarparu rhwydwaith cyfun o fannau gwyrdd a fydd yn elwa’r ecosystem leol ac yn argymell gwelliannau ar gyfer eu trafod a fyddai’n gwireddu amcanion yr Isadeiledd Gwyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau ecolegol megis plannu coed a dolydd blodau gwyllt a gwella cyfleusterau megis llwybrau a gwella arwyddion a systemau draenio cynaliadwy.
Oeddech chi’n gwybod
Mae fersiynau caled o’r canllaw hefyd ar gael o swyddfa Tirwedd Cenedlaethol Llangollen ac o swyddfa Parc Gwledig Loggerheads.


