O adfeilion sy’n dadfeilio i gaer ganoloesol ysblennydd mae llawer i’w ddarganfod.
Y Gop
Carnedd y Gop yw heneb gynhanesyddol fwyaf Cymru. Mae’n amhosib’ methu’r garnedd neolithig enfawr. Yn codi rhyw 12m ar ben y Gop, sydd ei hun dros 840 troedfedd o uchder, a thua 75–80m ar draws, mae’r garnedd anferthol yma’n amlwg o’r tir o’i hamgylch. O’i phen, mae modd gweld mynyddoedd Eryri, cadwyn Bryniau Clwyd yn ymestyn tua’r de, y Gogarth yn Llandudno a’r bae i’r Gorllewin. Yn sicr, mae golygfa aruthrol i’w gweld o’r llwyfan calchfaen yma ar arfordir y gogledd, yn agos at Brestatyn.
Ychydig iawn rydym yn ei wybod am y Gop, yn enwedig o gymharu ag enghreifftiau o Loegr, fel Silbury Hill yn Wiltshire sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Avebury. Yn y bedwaredd ganrif y bymtheg y gwnaed yr unig waith cloddio sydd wedi’i wneud ar yr heneb, a suddwyd siafft i’w chanol. Ni chafwyd llawer o wybodaeth am ei phwrpas gwreiddiol o hynny ond roedd yn amlwg yn lle o arwyddocâd enfawr. Mae gwaith cloddio yn ogof neolithig y Gop wedi datgelu esgyrn dynol, fflintiau cynhanesyddol a chrochenwaith.

Abaty Glyn Y Groes
Mae Abaty Glyn Y Groes, sydd wedi’i amgylchynu â’r bryniau, ymysg llefydd hanesyddol mwyaf hyfryd Sir Ddinbych, ac yn un o’r mynachlogydd canoloesol sydd wedi ei gadw orau yng Ngogledd Cymru. Ac yntau wedi ei ddarganfod “ymhell o gynefin dyn” yn 1202 gan dywysog lleol Cymraeg, roedd ei fynachod yn Sistersiaid gwisg wen. Roedd Abaty Glyn Y Groes unwaith yr abaty ail cyfoethocaf yng Nghymru ar ôl Tyndyrn ac roedd rhywun yn byw ynddo hyd ddiddymiad mynachlogydd yn 1537.
Ymhlith nifer o nodweddion cofiadwy mae blaen gorllewinol yr eglwys, gyda’i rhosffenestr uwchben ffenestri lansed pigfain triphlyg, a’r cabidyldy cromennog hyfryd. Mae ystafell gysgu’r mynachod a’r pwll pysgod tu hwnt i’r adfeilion helaeth hefyd yn werth eu gweld. Ond nid gwers am saernïaeth eglwysig ganoloesol yn unig yw Glyn Y Groes. Mae ymweliad â’r safle diddorol yma yn dwyni gof fywydau mynachod Sistersaidd – bugeiliaid defaid llwyddiannus a chefnogwyr brwdfrydig o ddiwydiant Cymru.
Abaty Valle Crucis Abbey yn y 14eg ganrif.
Cerdd i Abaty Valle Crucis.
Cynlluniwch ymweliad.

Castell Y Waun
Castell Y Waun, a gafodd ei gwblhau yn 1310, yw’r castell Cymreig olaf o deyrnasiad Edward I sydd dal yn cael ei breswylio heddiw – bu pobl yn byw ynddo’n barhaus dros y 700 mlynedd diwethaf.
Mae nodweddion o’r hanes hir yma yn cynnwys tŵr a daeargell ganoloesol, Oriel Hir o’r 17eg ganrif, rhandai gwladwriaeth o’r 18eg ganrif, neuadd gweision a golchdy hanesyddol.
Mae’r gaer orymdeithiol fawreddog hon gyda’i thyrrau crwn yn mynnu golygfeydd dros naw sir. Mae ei gerddi – a enillodd bleidlais yr ardd gorau yn Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn cynnwys ywen gyffredin, ffiniau llysieuol, a gerddi llwyn a cherrig.
Mae’r parcdir yn darparu cynefin ar gyfer infertebratau prin, blodau gwyllt ac yn cynnwys nifer o goed llawn dwf. Hefyd rhai giatiau haearn crefftus a wnaed yn 1719 gan y brodyr Davies.
Cerdd i’r Waun.
Cynlluniwch ymweliad.

Castell Dinas Brân
Yn coroni ar ben mynydd creigiog dros Langollen, mae Castell Dinas Brân – ‘the Crow’s Fortress’ – yn un o’r cadarnleoedd mwyaf dramatig a llawn chwedlau ym Mhrydain. Wedi’i leoli yng nghornel caer Oes Yr Haearn, mae’n un o’r ychydig o gestyll carreg Cymreig sydd dal i sefyll, a adeiladwyd yn y 13eg Ganrif gan Gruffudd ap Madoc, rheolwr gogledd Powys.
Wedi’i amgylchynu gan ffos wedi’i thorri â cherrig ac ochrau serth, mae’r rhain yn cynnwys adfeilion porthdy, gorthwr, a ‘thŵr Cymreig’ wedi’i siapio fel D. Wrth edrych yn agosach, gellir gweld nodweddion tebyg i blaster wal, lle tân, a hyd yn oed toiledau en-suite, yn dangos ei fod unwaith yn ogoneddus a gyda phob cyfleuster, yn ogystal â chaer wedi’i amddiffyn yn dda.
Fodd bynnag, prin 20 mlynedd y bu Dinas Brân yn weithredol. Dechreuodd yn yr 1260au a fe’i gadawyd a’i llosgwyd gan ei amddiffynwyr Cymraeg yn 1277. Yna cafodd ei warchod am gyfnod byr gan y Saeson – a nododd y Cadlywydd “there is no stronger Castle in all Wales, nor has England a greater.” Ond fe sicrhaodd ei anhygyrchedd ei fod wedi cael ei adael eto i’r brain, a dyna lle cafodd ei enw.
Gwylio animeiddiad digidol o’r trigfannau ar Ddinas Brân.
Oeddech chi’n gwybod
Mae rhai pobl yn credu bod Y Greal Sanctaidd wedi’i gladdu mewn ogof yn ddyfn o dan Gastell Dinas Brân.
Fe ychwanegir at ddirgelwch y castell gan y ffaith mai dim ond ar droed y gellid ei gyrraedd, ar ôl dringfa reit galed. Ond mae’r daith gerdded wedi cael ei wneud yn haws gan ystod eang o welliannau a ymgymerwyd gan staff a gwirfoddolwyr Tirwedd Cenedlaethol, sydd wedi bod yn brysur yn gosod cyfeirnodau, gatiau mochyn a llwybrau cerdded cerrig at y castell ei hun.
Yn ogystal â’r golygfeydd panoramig anhygoel, mae’r ddringfa hefyd yn eich gwobrwyo gyda’r cyfle i ymchwilio adfeilion y castell.
Castell Dinas Brân: O Fulod i ‘Gamera Obscura’
Cynlluniwch ymweliad.

