Am ganrifoedd mae ein tirwedd wedi bod yn gefndir i gelf a diwylliant unigryw, sydd yr un mor werthfawr â’r copaon grugog a’r adfeilion hanesyddol hudolus.
Darganfod Dyffryn Dyfrdwy Hardd: Dyffryn sy’n Gyforiog o Gelf a Thwristiaeth
Cymru yw cartref ysbrydol y mudiad celf Ddarluniadwy, a oedd yn annog arlunwyr fel Turner i ymgolli ym myd natur ac roeddent yn heidio i Ddyffryn Dyfrdwy i fwynhau ei hyfrydwch.
Mae’r hanes yn dechrau ym 1771, pan ddechreuodd Syr Watkin Williams Wynn, wedi’i ddylanwadu gan ei deithiau mawr o Ewrop, ar un o’r teithiau domestig cyntaf o amgylch ei ystadau yng Ngogledd Cymru, gyda’r artist Paul Sandby. Cyhoeddodd Sandby lyfr ‘XII Views in North Wales’ a chomisiynodd Syr Watkin ddwy olygfa o Ddinas Brân gan Richard Wilson, gan ddatgelu tirlun darluniadwy ac anhygoel.

O amgylch yr un pryd, roedd Merched Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, o’u cartref ym Mhlas Newydd, yn sefydlu Dyffryn Dyfrdwy fel canolfan gwerthfawrogi golygfeydd. Roeddent yn gefnogwyr brwd o’r rhamant, ac roedd y gymdeithas wedi cyfareddu â’u bywydau.
Mae nifer o’r darluniau gwreiddiol wedi cael eu hailgynhyrchu gan artistiaid yn dilyn trywydd yr artistiaid tirlun cynnar. Ymwelodd JMW Turner yn benodol â Dyffryn Dyfrdwy nifer o weithiau gan ddarlunio’r Afon Ddyfrdwy yng Nghorwen a Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân.
Mae llyfrau o’r ardal yn cynnwys “Wanderings and Excursions in north Wales” (1836) gan Thomas Roscoe, sy’n cynnwys darlun o Glyn y Groes. Cynhyrchodd Henry Gastineau “Wales Illustrated” yn 1830-31 gan gynnwys darluniau o Ddinas Brân, Glyn y Groes ac ardal Llangollen. Fe wnaeth George Borrow gynnwys Dyffryn Dyfrdwy ar ei daith o Gymru yn y 1830au hefyd.
Roedd strwythurau peirianyddol mawr yn y cyfnod, megis Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte, Rhaeadr y Bedol a’r Bont Gadwyn gydag agwedd estheteg, gan ddynodi y gallai cynnydd peirianyddol mawr gymryd lle yn y dirwedd a chyd-fynd gyda natur.
Erbyn dechrau a chanol y 19eg ganrif, roedd poblogrwydd tirlun Dyffryn Dyfrdwy, ynghyd â ffactorau eraill yn dechrau cael eu sefydlu yn ein hymwybod fel tirluniau eiconig. Daeth yr A5 a’r rheilffordd yn lwybrau i dwristiaid, gan ddod ag ymwelwyr i ogledd Cymru mewn niferoedd a rhoi Llangollen a Chorwen ar y map.
Heddiw gellwch ymweld â nifer o’r safleoedd hanesyddol, gan gerdded yn ôl troed y twristiaid cynnar hynny. Dringwch i gopa Dinas Brân; dewch i ganfod y Glyn ym Mhlas Newydd; a dewch i ryfeddu at y campweithiau peirianyddol sy’n ategu at y dirwedd yn Rhaeadr y Bedol a Phontcysyllte.

I ganfod mwy am y Mudiad Darluniadwy yn Nyffryn Dyfrdwy, gellwch brynu ein llyfr, Dyffryn Dyfrdwy: Creu Ein Tirlun Darluniadwy, yng Nghanolfan Wybodaeth Llangollen, Plas Newydd, neu Loggerheads. Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn rhan o brosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, rhwng 2018 a 2024.
Tŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd
Yn 1780 prynodd Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby fwthyn carreg diymhongar ar gyrion Llangollen. Dros yr hanner can mlynedd nesaf treuliodd y ddwy’r rhan fwyaf o’u hamser yn troi’r adeilad yn gampwaith gothig a’r gerddi’n hafan o dirluniau amrywiol i apelio at y synhwyrau creadigol.
Y tu mewn i’r adeilad fe welwch dderw wedi’i gerfio a gwydr lliw wedi’i achub o eglwysi lleol. Wedi’u harddangos yn y tŷ mae eitemau o eiddo’r merched ac mae ‘na hefyd daith awdio sy’n adrodd hanes ‘y Merched’ y bu cymaint o sôn amdanynt ar ôl iddynt redeg i ffwrdd gyda’i gilydd i wneud eu cartref yn Llangollen.
Oeddech chi’n gwybod
Cafodd y cylch cerrig ar y tir ei osod gan Orsedd y Beirdd ar gyfer seremoni wobrwyo Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908.
Roedd Merched Llangollen yn adnabyddus drwy Ewrop fel casglwyr hynodion a chefnogwyr y mudiad Darluniadwy. Fe wnaethant hoelio dychymyg y cyhoedd, sbarduno twf twristiaeth a chroesawu dynion a merched blaenllaw yr oes.
Daeth llawer i wybod am y gyfeillgarwch arbennig rhwng y Foneddiges Eleanor a Miss Sarah a chroesawodd y ddwy nifer fawr o ymwelwyr adnabyddus i’w cartref, gyda Dug Wellington, Wordsworth, Anne Lister, Sir Walter Scott a Josiah Wedgewood yn eu plith.
Parhaodd y Merched i ddylanwadu’n gryf ar berchnogion dilynol, hyd yn oed wrth i’r tŷ a’r ardd gael eu newid yn llwyr. Bron i ddwy ganrif ar ôl eu marwolaeth, gallwn deimlo eu presenoldeb o hyd. Rydym yn eu hadnabod yn bersonol drwy eu llythyrau, eu dyddlyfrau a’r marciau annileadwy a adawsant ar y tŷ.
Yn awr gallwch chi ddilyn yn ôl eu traed a phrofi drosoch eich hun y lle hudolus a rhamantaidd hwn. Mae staff gwybodus wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac mae’r Ystafelloedd Te bendigedig yn gweini bwyd a diod lleol a theisennau cartref.

Ewch am dro drwy’r 10 acer o dir i ddarganfod gerddi addurniadol ffurfiol a choetir hyfryd. Gallwch hefyd fynd am dro ar hyd yr afon drwy’r Glyn a gafodd ei adnewyddu fel rhan o’r prosiect Ein Tirlun Darluniadol. Ym mhob cwr o’r tiroedd a’r gerddi fe ddewch o hyd i lefydd eistedd cudd, golygfeydd godidog a chynlluniau plannu cywrain lle gall ymwelwyr aros am ennyd i werthfawrogi’r harddwch o’u cwmpas.
Camwch yn ôl mewn amser a chyfarfod Ladis Llangollen: Fideo 1 and Fideo 2.
Barddoniaeth wedi ei Hysbrydoli gan Ferched Llangollen.
Plas Newydd pan oedd Ladis Llangollen yn byw yno.
Coed Pen y Pigyn
Mae Coed Pen y Pigyn hefyd i’w canfod yn Nyffryn Dyfrdwy, ger canol tref Corwen.
Parciwch yn y prif faes parcio, dilynwch y llwybr heibio i’r eglwys ac ewch i mewn i’r coetir derw mes di-goes serth. Dyma fan llawn awyrgylch sy’n cynnwys Cerrig yr Orsedd a godwyd ar gyfer Eisteddfod y Fuddugoliaeth yn 1919. Cafodd yr orsedd gyntaf ei chreu yn 1792 gan Iolo Morgannwg, a oedd yn credu ei fod yn un o ddisgynyddion y derwyddon. Mae cylchoedd cerrig i’w gweld ar hyd a lled Cymru ac maen nhw’n rhan o hen draddodiad o gadeirio a choroni beirdd buddugol mewn Eisteddfodau.

Ar hyd y llwybrau drwy’r coetir hynafol fe welwch chi lawer o gerfluniau o anifeiliaid ac, os ydych chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi rai byw hefyd.
Mae yna stori dda ynghlwm wrth yr olygfan. Yn ôl yr hanes, yn y fan hon yr oedd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, yn sefyll pan daflodd ei ddagr mewn gwylltineb a tharo carreg islaw. Mae’r garreg, a’r marc dagr rhyfedd sydd arni, i’w gweld hyd heddiw ac yn lintel uwchben drws deheuol Eglwys Corwen.
Tŵr y Jiwbilî
Wedi’i adeiladu ar gyfer jiwbilî aur Brenin Siôr III “gwallgof” dros 200 mlynedd yn ôl, newidiodd y tŵr jiwbilî broffil Moel Famau. Gosodwyd y garreg sylfaen gyda ffanffer fawr ar ddydd Iau, 25ain Hydref 1810. Yr adeg honno, fodd bynnag, doedd yna ddim cynllun wedi’i gytuno.
Roedd y dyluniad terfynol gan Thomas Harrison yn goeth a thrawiadol, Yn y adeilad yn yr arddull Eifftaidd a fyddai’n ffasiynol ymhen fawr o dro – sylfaen hirsgwar gyda phedwar bastiwn a drysau ar osgo, y gellir ei weld o hyd heddiw, gydag obelisg ar ei ben.
Bu ymgecru wedyn ynghylch diffyg arian a gwaith gwael a chafodd yr adeilad ond ei orffen, i gynllun llai crand, yn 1817. Erbyn 1846 roedd un gornel wedi dymchwel ac roedd y pwyntio wedi dirywio. Codwyd arian ar gyfer atgyweiriadau ond roedd mwy o ddifrod yn amlwg erbyn 1856.

Roedd y dirywiad yn gyflym ac yn 1862 cwympodd yr obelisg gyda chlec aruthrol, yn ystod y gosteg yn dilyn gwynt mawr a oedd wedi para am ddau ddiwrnod. Gellid ei glywed mor bell i ffwrdd â lawnt Castell Dinbych.
Dros y degawdau dilynol methodd amrywiol gynlluniau ailadeiladu oherwydd diffyg arian a chefnogaeth.
Ni wnaethpwyd dim tan 1969 pan benderfynodd cangen Dinbych a Fflint o Gymdeithas y Tirfeddianwyr mai’u cyfraniad nhw at Flwyddyn Cadwraeth Ewrop 1970 fyddai tacluso’r adfeilion a’u diogelu rhag dirywio ymhellach.
Yn 1974 gwnaethpwyd Moel Famau yn Barc Gwledig gan Gyngor Sir Clwyd ac yn 1985 dynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn 1995 rhestrwyd Tŵr y Jiwbilî gan Cadw i roi nodded gyfreithiol iddo oherwydd ei arwyddocâd pensaernïol a diwylliannol.
Mae Moel Famau ac adfeilion Tr y Jiwbilî yn darparu cefnlen ddramatig i fywydau dyddiol cymunedau Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel ei gilydd. Maent yn rhoi ymdeimlad cryf o le ir ardal ac yn fegwn i ymwelwyr o Sir Gaer, Glannau Mersi ac ymhellach i ffwrdd.
Treftadaeth Ddiwylliannol Loggerheads
Mae Loggerheads yn gyforiog o hanes diwylliannol.
Mae’r enw Loggerheads ei hun yn tarddu o anghytundeb mwyngloddio chwerw yn y 18fed ganrif. Mae plac i’w weld o hyd uwchben y garreg derfyn ar yr A494 a godwyd ar ôl datrys ffrae rhwng teulu Grosvenor, a oedd yn berchen ar yr hawliau cloddio ym mhlwyf Llanferres, ac Arglwyddi’r Wyddgrug, a oedd yn berchen ar y rheini ym mhlwyf Yr Wyddgrug.
Rhygnodd yr anghytundeb ymlaen am flynyddoedd lawer cyn iddo gael ei benderfynu yn y diwedd o blaid Arglwyddi’r Wyddgrug. Mae’r ardal wedi’i hadnabod fel Loggerheads byth ers hynny.
Yr enw ar y garreg derfyn yw ‘Carreg Carn March Arthur’. Yn ôl y chwedl, mae ôl carn ceffyl y Brenin Arthur arni ar ôl iddo lamu o’r clogwyni i ddianc rhag y Sacsoniaid!
Yn y 1800au bu’r arlunydd tirluniau enwog, Richard Wilson, yn aros yn y Colomendy gerllaw gyda’i fodryb. Roedd yn arfer mynychu’r dafarn yn Loggerheads, ac yn ôl y sôn mae’n debyg ei fod, ar ôl derbyn bil sylweddol wrth y bar, wedi cynnig paentio arwydd newydd ar gyfer y dafarn yn lle talu’r bil. Cafodd ysbrydoliaeth o’r anghydfod adnabyddus ac fe baentiodd ‘We Three Loggerheads’ – llun o ddau unigolyn, a’r trydydd oedd landlord y dafarn yn gwylio’r ddadl.

Mae Loggerheads wedi denu ac ysbrydoli ymwelwyr ers y 1800au, o leiaf.
Ym 1829 daeth y cyfansoddwr Almaenig byd-enwog, Felix Mendelssohn, i Gymru ac fe’i hysbrydolwyd gan y dirwedd o gwmpas Loggerheads i gyfansoddi nifer o’i ddarnau enwog. Dywedir bod un gwaith ganddo, a elwir yn Saesneg yn ‘The Rivulet’, wedi ei ysbrydoli gan Afon Alun.
Yn nechraur 20fed ganrif dechreudd Crosville Motor Services redeg bysus rheolaidd i Loggerheads o Benbedw ac yn 1926 bu iddynt brynu 74 erw o Ystâd Loggerheads iw datblygu fel cyrchfan i ymwelwyr.
Fe wnaethant sefydlu Gerddi Te Crosville, gan adeiladu tŷ te mawr, ychwanegu bandstand, lawnt bytio ac atyniadau eraill ac agor y coedydd a glan yr afon i ymwelwyr.
Ym 1928 bu Eisteddfod gerddorol fawreddog yn Loggerheads. Hysbysebwyd hyn ar yr amserlen fysiau yn y cyfnod.
Yn ei anterth deuai’r gwasanaeth bws â miloedd o drigolion Glannau Mersi i Loggerheads ar benwythnosau’r haf. Disgynnodd niferoedd y teithwyr yn raddol wrth i berchenogaeth ceir gynyddu yn ystod y Chwedegau ac yn 1974 gwerthodd Crosville y tir i Gyngor Sir Clwyd County, rhagflaenwyr Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a’i datblygodd a’i agor fel parc gwledig.
Roedd yr ardal hefyd yn lloches croesawgar i blant yn ystod y rhyfel ac roedd y cyswllt hwnnw yn parhau gyda theuluoedd yn ymweld ar ôl y rhyfel a miloedd o blant ysgol yn ymweld â Cholomendy. Mae Loggerheads yn parhau â chysylltiad arbennig gyda phobl Lerpwl a Glannau Mersi. Mae llawer yn parhau i ddychwelyd ar deithiau dyddiol ac mae eraill wedi setlo yma i weithio neu ymddeol.
Parth Dysgu
Ysbrydoli chwilfrydedd a rhyfeddod am y lle arbennig hwn.
Carchar Rhuthun
Mwynhewch brofiad carchar Fictoraidd unigryw gyda digon o lwybrau rhyngweithiol a gweithgareddau i ymwelwyr iau

