Shopping Cart

No products in the cart.

Donkey and boy offering trips to Dinas

Castell Dinas Brân: O Fulod i ‘Gamera Obscura’

Byddai mulod yn arfer cerdded ar hyd y llwybrau i’r copa gan mai hon oedd y ffordd o deithio i nifer o safleoedd hanesyddol yn Nyffryn Dyfrdwy yn y 19eg ganrif. Byddech yn llogi eich ‘march’ ynghyd â gwas mul i weithio gydag o a byddai’r ddau’n mynd a chi ar eich taith.

Rhwng 1869 a’r Ail Ryfel Byd, roedd ‘camera obscura’ ar gopa Dinas Brân a chodwyd ystafell de ar y safle hefyd.

Postcard of Dinas Brân castle, from Mrs Gwyneth Williams' postcard collection
Cerdyn post gyda’r ‘camera obscura’. Casgliad Cardiau Post Mrs Gwyneth Williams

Mae’r camera obscura yn ddyfais optegol hynafol. Daw’r enw o’r geiriau Lladin ‘siambr dywyll’. Yn ei ffurf symlaf, mae’r camera obscura yn ystafell dywyll â thwll bychan yn un wal. Pan fydd hi’n llachar y tu allan, mae golau’n dod i mewn drwy’r twll ac yn taflu delwedd o’r byd y tu allan ar y wal gyferbyn â’r twll. Mae’r ddelwedd hon wyneb i waered a thu ôl ymlaen.

Yn ystod Oes Fictoria oedd y camera obscura fwyaf poblogaidd. Heddiw mae yna ddeg yn agored o hyd i’r cyhoedd ledled y DU, ac mae llawer o rai eraill dros y byd.

Yn rhan o’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’, cafodd ‘camera obscura’ symudol ei greu ac mae’n cael ei ddefnyddio yn aml i ddangos y golygfeydd mewn digwyddiadau ar draws y Dirwedd Genedlaethol. Hefyd, yn rhan o’r prosiect, bu plant ysgol lleol yn ymchwilio ac yn creu perfformiad ar hanes y ‘camera obscura’ a safai unwaith ar Ddinas Brân.

Cliciwch yma i deithio mewn amser gyda’r antur hwnnw.

Dros y canrifoedd, mae Castell Dinas Brân wedi’i baentio gan lawer iawn o bobl, gan gynnwys yr arlunwyr enwog JMW Turner a Richard Wilson. Mae pobl yn parhau i gael eu hysbrydoli gan yr hen adfail hwn heddiw drwy ffotograffiaeth, barddoniaeth, podlediadau a hyd yn oed realiti rhithwir.

Y cloddiad archeolegol cyntaf ar Ddinas Brân 
Yn 2021, bu’r cloddiad archeolegol cyntaf erioed ar gofnod ar Ddinas Brân.

Arweiniwyd y gwaith cloddio gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys a chafodd ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri drwy brosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’’.

Archaeologist excavating Dinas Brân Castle

Roedd y gwaith cloddio’n galluogi i seiri maen ddiogelu sylfeini’r waliau a deall rhagor am gynllun a manylion y porthdy, gan gynnwys cyfres o baratoadau amddiffynnol ar hyd cyntedd y fynedfa.

Excavating Dinas Brân Castle

Drwy’r gwaith, llwyddwyd i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r cynllun a dod o hyd i lefelau llawr sydd wedi goroesi a nodweddion archeolegol a oedd wedi’u claddu. Awgrymwyd y gallai mwy fod wedi’i gladdu dan yr haenau o rwbel o’r 18fed–19eg ganrif a oedd wedi’i osod y tu mewn i’r tyred ar fwriad er mwyn caniatáu i’r ystafell â tho bwa gael ei throsi’n ystafell roedd modd ei defnyddio. Mae cofnodion bod y tyred wedi’i ddefnyddio fel storfa ar gyfer ystafell de yn oes Fictoria.

Mae’r gwaith hyd yma wedi datblygu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r castell a hefyd wedi sicrhau bod y porthdy’n strwythurol gadarn ac yn ddiogel i allu ei agor i ganiatáu mynediad i’r cyhoedd ar adegau penodol pan mae hynny’n briodol.

Mae’r ffilm fer hon yn dangos y rwbel o’r gwaith cloddio’n cael ei gludo gyda hofrennydd o’r copa i bwyntiau ar hyd y llwybrau er mwyn ei ailddefnyddio i gynnal a chadw’r llwybrau sydd wedi treulio ar y ffordd i’r castell ei hun. 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.