Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch am ein prosiectau i weld y camau gweithredu penodol sydd ar waith.
Clogwyni calchfaen a chalchbalmant
Mae calchfaen yn graig hynod sy’n ffurfio rhai o dirweddau mwyaf nodedig Prydain. Mae enghreifftiau gwych o’r golygfeydd dramatig hyn i’w gweld yn Tirwedd GenedlaetholBryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yng Nghreigiau Eglwyseg, Bryn Alun, Bryniau Prestatyn a Pharc Gwledig Loggerheads.
Porfa galchfaen
Mae porfa galchfaen yn gynefin hynod wahanol ac yn gartref i lawer o flodau gwyllt fel briallu Mairsawrus a chor-rosyn, gan gynnwys rhai prin ac anghyffredin fel crwynllys yr hydref a thegeirian fel tegeirian porffor y gwanwyn. Yn eu tro mae’r rhain yn cynnig rhywbeth i amryw o anifeiliaid di-asgwrn-cefn gan gynnwys llawer o loÿnnod byw a gwyfynod fel y glöyn byw glas cyffredin a’r gwyfyn bwrned smotiau coch.
Rhostir
Mae’r ardaloedd mawr o rosydd grug sy’n garped ar lawr yr Tirwedd Genedlaethol o bwys rhyngwladol. Mae dros hanner cynefinoedd rhostir y byd yn y DU ac maent yn ffurfio’r ardal fwyaf o gynefinoedd bywyd gwyllt annatblygedig sydd ar ôl yng Nghymru o bell ffordd.

Mae’r rhostiroedd hyn yn llefydd arbennig i adar yr ucheldir fel clochdar y cerrig, cornhedydd y coed, cudwalch yr ieir a’r cudyll bach sy’n ymweld â’r rhostiroedd yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf i fridio. Roedd cri’r gylfinir yn arfer bod yn sŵn cyfarwydd yn yr haf cyn iddo ddychwelyd i’r aberoedd dros y gaeaf. Mae rhostiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd yn gadarnle i’r grugiar ddu, un o adar mwyaf prin y DU.
Ffridd
Mae’r Ffridd yn fath arbennig o gynefin ac yn nodwedd bwysig o gefn gwlad Cymru. Mae’n gynefin sydd dan fygythiad.

Mae ardaloedd ffridd i’w cael rhwng ardaloedd o ucheldir ac iseldir, ac yn cynnwys nodweddion o’r ddau gynefin hyn. Mae cynefin ffridd yn ‘goridor’ pwysig yng nghefn gwlad. Disgrifir Ffridd yn aml fel cynefin o frithwaith neu glytwaith gan ei fod yn cynnwys cymysgedd o lystyfiant gwahanol.
Yn aml fe welwch gymysgedd o laswellt, rhostir, rhedyn a chlytiau o lwyni gwasgaredig a choed bach.
Mae Ffridd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i fyw rhwng amgylcheddau ucheldir ac iseldir. Cliradain Gymreig Mwyalchen y mynydd, Ffwng Tafod y Ddaear, Edafeddog y Mynydd.
Mae ffriddoedd yn lled-naturiol sy’n golygu bod angen ei drin yn ofalus i’w atal rhag troi’n goetir yn y pen draw.
I weld enghreifftiau da o gynefinoedd Ffridd, mae’n werth mynd o Langollen i Gastell Dinas Brân, sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu o Gorwen i Gaer Drewyn.
Dysgwch fwy am reoli’r cynefin pwysig hwn.
Coetir
Mae llawer o goetiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn goetiroedd hynafol lled naturiol sy’n cynrychioli cyswllt â’r tirlun fel ag yr oedd yn dilyn yr oes yr iâ olaf. Gan na fu llawer o darfu arnynt ers cyhyd, maen nhw’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fflora a ffawna. Darllenwch fwy am arferion rheoli coetiroedd yn yr Tirwedd Cenedlaethol.
Dyffrynnoedd afonydd a gwlyptir
Mae nifer o ddyffrynnoedd a gwlyptiroedd yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – y rhai mwyaf nodedig yw Afon Alun ac Afon Dyfrdwy, ac Afon Chwiler ac Afon Morwynion, sy’n llai adnabyddus.

Mae llawer o’r afonydd yn y Dirwedd Genedlaethol wedi derbyn dynodiad o ryw fath er mwyn eu gwarchod a’r bywyd gwyllt ynddynt. Dynodwyd Afon Dyfrdwy i gyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA); mae bron i 17% o Afon Alun o fewn ffiniau ACA, ac mae canran debyg o Afon Chwiler yn llifo drwy safleoedd bywyd gwyllt dynodedig.
Mae dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr yn dibynnu ar ein dyfrffyrdd. Yn ffodus, yn dilyn dirywiad dramatig yn y boblogaeth yng nghanol yr 20fed ganrif, mae’r dyfrgi yn dechrau adfeddiannu ei hun. Dyma un o’r rheswm dros ddynodi Afon Dyfrdwy fel Ardal Cadwraeth Arbennig.
Fodd bynnag, mae llygod pengrwn y dŵr yn dirywio’n ddifrifol, gyda 90% o boblogaeth y DU wedi ei golli ers y 1980au. Mae angen gweithredu rŵan i’w atal rhag diflannu’n llwyr.
Curlew Connections Wales Project
Curlew Connections Wales aims to tackle the key issues driving the low breeding success of curlew in Wales, monitoring and understanding curlew populations within these three Important Curlew Areas, implementing nest protection, predator management and habitat works.

