Mae pentref Llanarmon-yn-Iâl wedi’i leoli i’r de-ddwyrain o dref Rhuthun. Mae’r afon Alyn yn llifo heibio ochr ddwyreiniol y pentref.
Mae’r pentref yn uchel yn nyffryn yr Afon Alyn wrth iddi lifo i gyfeiriad y gogledd o
Fryniau Clwyd. Lleolir yr Eglwys a’r pentref ar fin gogleddol ochr y dyffryn yn agos at y man lle mae aliniad newidiol yr afon wedi creu esgair. Y tu ôl i’r aneddiad, mae’r llwyfandir calchfaen tonnog yn codi’n raddol.
Mae gan y pentref hanes hir a chyfoethog. Mae darganfyddiadau o Oes y Cerrig, sy’n awgrym o feddiannaeth miloedd ar filoedd o flynyddoedd yn ôl, wedi cael eu canfod yn yr ogofau yn y pentref. Caiff yr aneddiad ei grybwyll am y tro cyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich 1254, a chaiff ei gofnodi fel ‘Sancto Garmano’.

Erbyn 1314, mae’r pentref bellach yn cael ei adnabod yn ôl ei enw cwmwd ‘Thlanharmon in Yal’. Yn ôl pob tebyg, Llanarmon-yn- Iâl oedd prif ddinas y cwmwd Iâl, a bod cysegriad yr eglwys i Sant Garmon yn adlewyrchu hyn, yn ogystal â sylfaen Ganoloesol gynnar iawn. Mae’r fynwent, gellir darllen mwy amdani yn y cofnod ar Eglwys Sant Garmon, wedi’i chodi’n uchel ac mewn siâp cylch, sy’n sicr yn awgrymu dyddiad cyn y Goncwest, ac yn bosib iawn, sylfaen cyn Cristnogaeth.
Mae’r rhwydwaith o ffyrdd a lonydd o amgylch y pentref yn ddifyr iawn. Ymddengys, er yr addasiadau dros y blynyddoedd, mai’r eglwys oedd y canolbwynt ar lwybr rhwng Abaty Glyn y Groes i’r de a’r safleoedd eglwysig Abaty Dinas Basing a Ffynnon Santes Gwenffrewi yn y gogledd.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae tai yn yr aneddiad yn gymysgedd o fythynnod o’r ddeunawfed ganrif / y bedwaredd ganrif ar bymtheg a thai modern. Mae gan lawer o’r bythynnod gerrig dyddio, a gweler y garreg gynharaf o 1749 ar Lwyn Onn’. Mae pentref Llanarmon wedi cadw ei Swyddfa Bost a’r dafarn Raven Inn a adeiladwyd ym 1722. Mae’r hen ysgol (a adeiladwyd ym 1777) bellach yn cael ei defnyddio fel Neuadd yr Eglwys. Mae’r Eglwys yn dal ar agor fel man addoli, yn ogystal â Chapel Calfinaidd Cymraeg Bethel.
Mae pentref Eryrys yn hen bentref mwyngloddio, hanesyddol yng nghymuned Llanarmon-yn-Iâl. Mae sawl ffynhonnell yn awgrymu bod yr enw’n deillio o Erw Yrys neu Erw Gyrys.
Mae’r pentref wedi’i adeiladu ar fryn carreg galch Bryn Alyn a gellir gweld llawer o gerrig brig calchfaen gerllaw.
Mae tystiolaeth yn dangos bod mwyngloddio ar raddfa fach wedi dechrau yma yn y drydedd ganrif ar ddeg, ond dim ond yn ystod misoedd sych y flwyddyn. Roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan ffermwyr lleol yn bennaf tan 1735 pan gymerodd Ystâd y Grosvenor drosodd ar ôl cael eu hatal gan ‘hen ddeddfau mwyngloddio’ ers blynyddoedd lawer. Cloddfa Westminster oedd fwyaf cynhyrchiol yn yr ardal ac roedd yn cael ei chloddio am blwm a sinc.
Gweler mwy o wybodaeth am yr ardal hon ar wefan y gymuned.
Mae pentref Graigfechan wedi’i leoli ar gornel dde-orllewinol ardal Bryniau Clwyd. Gyda Gwarchodfa Natur Graig Wyllt i’r gogledd a choetiroedd collddail helaeth, mae’n aneddiad cnewyllol ar ymyl y ffordd gyda bythynnod o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg, capeli, a thai o’r ugeinfed ganrif, wedi’i leoli o amgylch bryn calchfaen amlwg.
Mae Graigfechan yn bentref sy’n llawn hanes. O olion traed Celtaidd hynafol i ddechreuadau amaethyddol canoloesol, mae’r pentref yn adrodd hanes difyr drwy ei fythynnod carreg ac Eglwys y Santes Fair.
Mae Graigfechan yn croesawu ei wreiddiau hanesyddol a thawelwch natur, gan gynnig mynedfa i Fryniau Clwyd. Fel naratif hanesyddol byw, mae’r pentref yn taro cydbwysedd cytûn rhwng traddodiad a chynnydd, gan wahodd ymwelwyr i ymhyfrydu yn ei swyn arbennig. Mae gan y pentref wefan ddifyr a gallwch ddarllen mwy am ei hanes yno.

