Dewch i fwynhau trysorau cudd ein Tirwedd Cenedlaethol, o goetiroedd hynafol i fryniau eang sy’n gyfoeth o hanes diwylliannol ac yn llawn harddwch naturiol eithriadol.

Coed Pen y Pigyn, Corwen
Pen y Pigyn yw’r bryn serth y mae Corwen yn gorwedd oddi tano. Mae llwybrau troed yn arwain ato y tu ôl I adeilad y Wyrcws a’r tu ôl i’r eglwys.
Mae’r llwybrau’n troelli drwy goetir derw a bedw, heibio cylch cerrig yr Orsedd. Gallwch ddilyn y Llwybr Dagr ¼ milltir a manteisio ar safleoedd picnic hyfryd. Mae yna olygfan ar y brig.
Cynllunio ymweliad: gallwch deithio ar fws, beic neu mewn car gyda phrif faes parcio talu ac arddangos Lôn Werdd, Corwen yn darparu ar gyfer pob opsiwn.
Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Llangollen
Mae’r warchodfa newydd yma ar yr A539 rhwng Llangollen a Threfor.

Cynllunio ymweliad: fe allwch chi barcio yn y maes parcio, neu fe allwch chi gerdded o Langollen ar hyd yr hen reilffordd o’r ganolfan iechyd neu mae yna hefyd safle bws tu allan.
Moel Findeg, Maeshafn
Mae Moel Findeg yn fynydd bach amlwg ar ochr ddwyreiniol Bryniau Clwyd.
Mae sawl llwybr yn croesi’r mynydd gan gynnig golygfeydd panoramig i bob cyfeiriad, yn cynnwys tua Bae Lerpwl, y Penwynion, Swydd Amwythig a’r Wyddfa.

Cynllunio ymweliad: mae parcio yn gyfyngedig a chynghorir ymwelwyr i barcio ym Mharc Gwledig Loggerheads a dilyn y llwybr i Foel Findeg (tua un filltir).
Coed Nercwys, Nercwys ger yr Wyddgrug
Mae Coed Nercwys yn safle Cyfoeth Naturiol Cymru oddeutu 3 milltir o’r Wyddgrug ar ochr ddwyreiniol y Tirwedd Cenedlaethol.

Coed Bell, ger Prestatyn
Mae Coed Bell, ger arfordir Sir Ddinbych, yn cynnwys coetir hynafol a rhostir arfordirol lled-naturiol yn ardal Uwch Gronant. Mae’r copa yn edrych dros Brestatyn gyda golygfeydd ar draws Bae Lerpwl a thua’r tir i Ddyserth a Bryniau Clwyd.

Cynllunio ymweliad: heb faes parcio, mae’r prif fynediad ar hyd llwybr wrth ymyl y fynwent islaw neu o bentref Gronant.
Bryniau Prestatyn
Mae Bryniau Prestatyn, ar arfordir Sir Ddinbych, yn cynnwys llethrau coediog a brigiadau calch sy’n codi’n serth uwchlaw tref Prestatyn a phentref Gallt Melyd.

Cynllunio ymweliad: mae yna faes parcio bach am ddim ar waelod y ffordd sy’n arwain o bentref Gwaenysgor lle fedrwch chi ymuno â Llwybr Clawdd Offa i fynd at Fryniau Prestatyn.
Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd, ger Wrecsam
Mae Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Dyffryn hardd Clywedog. Mae’r Mwynglawdd wedi’i leoli ym mhen draw’r dyffryn ac mae’n fan cychwyn da i fwynhau’r cefn gwlad cyfagos, gan gynnwys Mynydd y Mwynglawdd ar gyfer cerddwyr brwd.

Parc Gwledig Tŷ Mawr, Cefn Mawr
Fe gewch hyd i Barc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau afon Dyfrdwy dan fwáu syfrdanol Traphont Cefn.


