Mae Tirweddau Cenedlaethol yn cael eu hystyried yn rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Prydain. Ynghyd â’r Parciau Cenedlaethol maent yn cynrychioli ein hardaloedd gorau o gefn gwlad.
Fe wawriodd cyfnod newydd i’r ardaloedd hyn pan sefydlodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fframwaith newydd ar gyfer eu rheoli a’u diogelu.
Cyhoeddi Cynllun Rheoli ar gyfer Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n dwyn ynghyd rinweddau a nodweddion arbennig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn eu huno ag un set o amcanion. Mae’n adnabod y nodweddion hynny ar draws y Dirwedd Cenedlaethol sy’n gwneud y dirwedd yn arbennig, o gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig yn genedlaethol i gofebau hanesyddol ac mae’n gosod agenda clir ar gyfer buddsoddi ynddynt.
Dim ond trwy ymgysylltu gyda phawb sy’n ymwneud â’r ardal, y cymunedau lleol, ffermwyr, tirfeddianwyr, ymwelwyr a chyrff cyhoeddus, yr ydym wedi gallu cytuno ar weledigaeth ar gyfer dyfodol y Dirwedd Genedlaethol.
Ond mae’r cynllun manwl hwn hefyd yn cydnabod bod y dirwedd yr un mor ddyledus i’r cymunedau sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau amser hamdden yn yr ardal ag i’w nodweddion ffisegol.
Oeddech chi’n gwybod
Fe ymgynghorir â’r Dirwedd Genedlaethol ar dros 200 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn.
Mae’r amgylchedd adeiledig yn un o nodweddion arbennig y Dirwedd Genedlaethol ac mae’n cyfrannu tuag at gymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Mae yna bwysau am ddatblygiadau newydd yn y Dirwedd Genedlaethol a’r ardal gyfagos oherwydd bod yr ardal yn lle atyniadol i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Ond mae angen gofal arbennig er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cyd-fynd yn dda â’r dirwedd. Os ydych yn ystyried cyflwyno cais cynllunio am ddatblygiadau neu welliannau i’ch cartref neu fan gwaith, mae angen i chi wybod a fydd eich prosiect yn effeithio ar y Dirwedd Genedlaethol a phwy y dylech gysylltu â nhw.
Defnyddiwch ein map i ddarganfod a yw eich prosiect o fewn ffin y Dirwedd Genedlaethol, ond peidiwch ag anghofio y gall datblygiadau y tu allan i’r Dirwedd Genedlaethol effeithio ar y dirwedd werthfawr hon hefyd. Mae yna dri Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwneud â’r Dirwedd Genedlaethol – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam – ac mae’r map hefyd yn dangos ym mha ardal rydych chi.
Mae gan bob awdurdod cynllunio Cynllun Datblygu Lleol sy’n gosod y polisïau cynllunio a chynigion ar gyfer eu hardal, gan gynnwys y Dirwedd Genedlaethol. Maent hefyd wedi paratoi Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Tirwedd Genedlaethol mewn partneriaeth â’r AHNE. Fe fydd y dolenni isod yn mynd â chi i’r gwefannau ar gyfer pob un o’r awdurdodau cynllunio lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach.
Er nad y Dirwedd Genedlaethol yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal, fe ymgynghorir â ni ar geisiadau cynllunio a chynlluniau a chynigion datblygu a fydd yn effeithio ar y dirwedd a ddiogelir.
Gwybodaeth gynllunio Sir Ddinbych
Gwybodaeth gynllunio Sir Fflint
Ymholiadau Cynllunio: E-bost

