Mae’r MGT yn gynllun ariannu gwerth £12 miliwn gan Ofgem i’r Grid Cenedlaethol a’i nod yw gostwng effeithiau gweledol yr isadeiledd trydan mewn tirweddau a ddiogelir. Y Grid Cenedlaethol sy’n gweinyddu’r cynllun.
Pwy all ymgeisio?
Dim ond Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol all wneud cais uniongyrchol am arian gan y cynllun a derbyn y cyllid ond mae’r cynllun yn caniatáu i’r Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol weithio gyda thirfeddianwyr, cymunedau a sefydliadau cadwraeth lleol eraill i lunio cais. Yn yr ardal hon, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw’r awdurdod tirwedd a ddiogelir perthnasol.
Beth yw’r meini prawf cymhwyso?
Mae’n rhaid i’r gwaith arfaethedig fod o fewn y Dirwedd Genedlaethol ac o fewn oddeutu 3km o isadeiledd Grid Cenedlaethol. Mae angen i’r gwaith anelu at ostwng effaith weledol yr isadeiledd a gwella ansawdd y dirwedd yn bennaf.

Pa fath o waith y gellir ei wneud?
Gellir ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyn belled ag y bo modd dangos ei fod yn ateb y meini prawf uchod. Er enghraifft, plannu coed, adfer gwrychoedd, creu gweirgloddiau, adfer ffiniau traddodiadol, creu pyllau, rheoli rhostir a gwella mynediad cyhoeddus. Mae enghreifftiau eraill o waith y gall y Grid Cenedlaethol eu hystyried yn cynnwys gwaith mwy arbenigol i wella bioamrywiaeth, datblygiad cynaliadwy cymdeithasol ac economaidd, gwella mynediad cyhoeddus a hyfforddiant galwedigaethol ac ymarferol y gall y gymuned leol elwa ohono.
Pa daliadau all tirfeddianwyr eu derbyn?
Gall y taliadau fod hyd at 75% o gyfanswm y gost.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Os oes gennych chi ddiddordeb siaradwch â thîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (manylion cyswllt isod). Bydd angen cynnal ymweliad safle fel arfer, i drafod syniadau manwl am y gwaith y gellir ei gynnwys.
Crynodeb byr o’r sefyllfa bresennol:
Dechreuodd y prosiect MGT cyntaf yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym mis Mawrth 2018 yn ardaloedd Bryneglwys a Thremeirchion. Mae gennym 7 prosiect yn awr (gan gynnwys yr holl brosiectau a gymeradwywyd ac a gwblhawyd) yn gweithio mewn tirweddau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gyda chyfanswm eu gwerth dros filiwn o bunnoedd o gyllid. Mae’r prosiectau hyn wedi ein galluogi i weithio ar draws ystod eang o flynyddoedd a chynefinoedd i wella’r dirwedd weledol, ynghyd â chynorthwyo i gynyddu bioamrywiaeth, drwy adfer a phlannu gwrychoedd, adfer hen byllau, ailadeiladu waliau cerrig sychion, gwelliannau i ddolydd blodau gwyllt, cael gwared â phrysgwydd a phlannu coetir.

Mae mwyafrif gwaith y prosiect yn cael ei gyflawni ar dir preifat ac mae wedi cronni dros y blynyddoedd i gael effaith gadarnhaol ar y dirwedd, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gan gynllun MGT ganolbwynt cryf ar weithio gyda thirfeddianwyr, datblygu cynlluniau unigol, ystyried dyheadau tirfeddianwyr, ynghyd â chyflawni nodau bioamrywiaeth a thirwedd allweddol. Mae gwaith o fewn y cynllun MGT yn cael ei ddarparu’n bennaf gan y tirfeddianwyr eu hunain, gan hyrwyddo perchnogaeth dros lwyddiant / methiant y gwaith, gyda’r gobaith o’i wneud yn fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn gynllun sy’n cefnogi arferion gorau, er enghraifft drwy gynnig cyfleoedd hyfforddiant sgiliau gwledig i berchnogion tir a rhoi cyfle i gyflwyno egwyddorion cadwraeth fel plannu coed sydd wedi’u tyfu o hadau’r DU yn y DU yn unig.

Yn ogystal â gweithio gyda thirfeddianwyr, mae cynllun MGT yn gweithio’n agos gyda’r cymunedau lleol i ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl mewn sawl ffordd ar safleoedd cefn gwlad o fewn portffolio’r Dirwedd Genedlaethol ac o fewn y tirweddau ar eu stepen drws. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys plannu gwrychoedd, plannu coed a chodi waliau cerrig sychion. Mae’r gronfa MGT wedi bod yn llwyddiannus o safbwynt datblygu dyheadau sefydliadau eraill o fewn y dirwedd a rennir, megis Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a Chyfoeth Naturiol Cymru, a chynorthwyo i feithrin partneriaethau cryf ac amcanion cyfunol.
Rhai ystadegau:
- Dros 24km o wrychoedd wedi’u hadfer
- Dros 3000 o goed wedi’u plannu
- Dros 1km o waliau cerrig sychion wedi’u hatgyweirio
- 19 o byllau wedi’u hadfer
- Oddeutu 7ha o brysgwydd ymledol wedi’i dynnu
- Dros 14 hectar o welliannau i ddolydd blodau gwyllt
- Bron i 3km o welliannau mynediad


