Shopping Cart

No products in the cart.

Horseshoe Falls

Camu’r Darluniadwy

Fel rhan o’r Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, mae cyfres o deithiau cerdded wedi cael eu datblygu, a fydd yn arwain ymwelwyr a phobl leol at olygfeydd a nodweddion hanesyddol nad ydynt, efallai, wedi’u gweld o’r blaen ac i wella’u profiad a’u dealltwriaeth o Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Yn olion traed Merched Llangollen

Cover of In the Footsteps of the Ladies of Llangollen walk PDF

 Yn daith gylchol tair milltir o hyd o Blas Newydd, Llangollen ar hyd Dyffryn Pengwern a thrwy’r coetir ym Mhen y Coed.

  • Pellter: 3 milltir /5 cilomedr
  • Hyd bras: 2 awr
  • Mae’n cynnwys lonydd gwledig tawel, tir amaethyddol a choetir. Mae rhai rhannau serth.

Darganfod Peirianwyr ac Artistiaid yn Llangollen

Cover of Discovering Engineers and Artists in Llangollen PDF

Yn daith gylchol o Raeadr y Bedol, yn cynnwys golygfeydd bendigedig o Gamlas Llangollen a thirnodau hanesyddol, sydd wedi cael ei chofnodi’n gelfyddydol ers canrifoedd ac sydd wedi’i lleoli o fewn Dyffryn Dyfrdwy.

  • Pellter: 2.5 milltir / 4km
  • Amser: Tua 1.5 awr
  • Yn cynnwys llwybrau tynnu a llwybrau naturiol drwy goetir a thir amaethyddol. Mae yna rannau serth. Mae rhannau o’r daith hon yn dilyn Llwybr Hanes Llangollen. Mae yna hefyd ddewis lefel uwch sy’n mynd â chi i gopa Moel Tan y Coed. Cofiwch gadw golwg am y paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr.

Camu dros ffiniau ac amser

Cover of Stepping Across Borders PDF

Taith gerdded gylchol yn nhref hanesyddol y Waun, yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr gyda golygfeydd godidog o’r Draphont, Dyfrbont a’t Twnnel.

  • Pellter: 2.5 milltir / 4km
  • Amser: Tua 1.5 awr
  • Mae’n cynnwys llwybrau camlas, tir amaethyddol a choedwig. Mae rhai darnau serth byr. Mae opsiwn byrrach, hygyrch sy’n cadw at lwybrau palmantog, cadwch lygad allan am baneli gwybodaeth sydd wedi’u harwyddo ar hyd y llwybr.

O Fwa i Fwa

Cover of From Arch to Arch PDF

Llwybr cerdded o ardal hyfryd Dyffryn Dyfrdwy rhwng Dyfrbont Pontcysyllte a Thraphont Cefn.

  • Pellter: 2.5 milltir / 4km
  • Amser: Tua 1.5 awr
  • Mae’n cynnwys llwybrau ar balmentydd a gwair, caeau a choedwigoedd. Mae nifer o risiau serth ac anwastad ar y llwybr a rhai adrannau i fyny allt.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.