Shopping Cart

No products in the cart.

Awyr Dywyll

Rydym yn credu y dylid gwarchod awyr dywyll y nos; dyna pam ein bod yn frwdfrydig dros ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA).

Nid yn unig y mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rai o’r tirweddau harddaf yng ngolau dydd, mae yna hefyd leoliadau awyr dywyll rhagorol lle gellir profi rhyfeddod awyr naturiol. Rydym yn credu y dylid gwarchod awyr dywyll y nos; dyna pam ein bod yn frwdfrydig dros ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA).

Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr.

Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.

Hoffem sicrhau bod awyr y nos yn yr AHNE yn cael ei gadw fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.

moon over north Berwyn

Llygredd Golau

Gall gormod o oleuadau, neu oleuadau anaddas effeithio’n ddifrifol ar bobl a’r amgylchedd. Mae llygredd golau yn derm cyffredin sy’n cyfeirio at olau artiffisial sy’n disgleirio pan nad oes ei...

dark skies long exposure

Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll

Dewch i fwynhau awyr y nos yn ein Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.