Shopping Cart

No products in the cart.

Tirweddau a Bywyd Gwyllt

Y cynefinoedd sydd i’w gweld y TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw clogwyni calchfaen a phorfeydd, rhostiroedd, coedlannau a dyffrynnoedd gydag afonydd sy’n gartref i amrywiaeth o fflora a ffawna sy’n cyfrannu at gymeriad unigryw’r ardal. Mae mynd am dro neu feicio’r llwybrau mewn unrhyw ran o’r AHNE yn siŵr o roi pleser mawr i’r rheiny sy’n mwynhau edrych ar fywyd gwyllt gyda chyfle i weld anifeiliaid a phlanhigion prydferth sy’n aml yn rhai prin.

Pan fydd bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn cyfuno

Mae bioamrywiaeth yn disgrifio popeth byw yn y byd, o’r pryf lleiaf i’r goeden dalaf, o ficrobau i forfilod gleision a phopeth yn y canol.

Geoamrywiaeth yw’r amrywiaeth o elfennau daearegol yn cynnwys mathau o graig a phridd, mwynau, ffosiliau, dŵr a thirffurfiau.

Pan fydd bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn cyfuno maent yn creu cynefinoedd cymhleth y mae ystod amrywiol o fywyd gwyllt a phlanhigion yn dibynnu arnynt. Mae goroesiad y cynefinoedd hyn yn dibynnu’n llwyr ar ein gallu i ddeall, gwerthfawrogi a gofalu amdanynt.

Sheep on heathland

Cynefinoedd

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch...

Grouse

Cyfoeth Bywyd Gwyllt

Mae rhai o’r rhywogaethau sydd i’w cael yn TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi’i rhestru i fod dan fygythiad neu yn dirywio’r sylweddol yn genedlaethol, er enghraifft y glöyn...

Loggerheads Country Park

Parc Gwledig Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn fan arbennig iawn, yn gyfoeth o fywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’n borth perffaith i ymwelwyr sydd eisiau archwilio Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Moel Famau Country Park

Parc Gwledig Moel Famau

Yn 554 metr o uchder Moel Famau ydi copa uchaf Bryniau Clwyd.

Landscapes and Wildlife

Coed Nercwys

Mae Coed Nercwys yn safle Cyfoeth Nautriol Cymru sydd wedi’i leoli 3 milltir o’r Wyddgrug ar ochr ddwyreiniol yr Tirwedd Genedlaethol.

Moel Findeg

Moel Findeg

Roedd pobl Maeshafn yn meddwl y byd o’u mynydd, a bu iddyn nhw helpu i godi £456,000 i brynu’r mynydd a’i achub rhag cael ei chwarela. Rŵan mae’r mynydd yn...

Prestatyn hillside

Bryn Prestatyn

Mae Llechwedd Prestatyn, ar arfordir Sir Ddinbych, yn cynnwys llethrau coediog a brigiadau calchfaen sy’n codi’n serth uwchlaw tref Prestatyn a phentref Gallt Melyd.

Bluebells

Coed Bell

Mae Coed Bell, ger arfordir Sir Ddinbych, yn cynnwys coetir hynafol a rhostir arfordirol lled-naturiol yn ardal Uwch Gronant.

Wenffrwd Nature Reserve

Warchodfa Natur Wenffrwd

Yr ardal a fu unwaith yn safle ar gyfer tipio gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol ar gyfer trigolion Llangollen, mae bellach yn warchodfa natur lewyrchus i'r cyhoedd ei mwynhau.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.