Shopping Cart

No products in the cart.

Parth Dysgu

Ysbrydoli chwilfrydedd a rhyfeddod am y lle arbennig hwn…

Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ffin ddramatig yn ucheldir Gogledd Cymru, gyda thirluniau darluniadol, copaon dramatig a threfi a phentrefi hanesyddol. Mae Bryniau Clwyd a’u gorchudd o rug yn gwobrwyo’r anturiaethwr gyda bryngaerau hynafol a golygfeydd anhygoel sy’n agor allan i Ddyffryn Dyfrdwy a’i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol. Mae hanes y bobl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal i’w weld yn y cyfoeth o atyniadau treftadaeth. Mae tirweddau trawiadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi denu ymwelwyr ers cannoedd o flynyddoedd.

Tyrchwch drwy ein hadnoddau dysgu cyffrous i ddarganfod mwy…

Mae’r bwndeli dysgu yma wedi cael eu llunio ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 mlwydd oed, ond mae posib’ addasu llawer ohonynt ar gyfer disgyblion iau neu hŷn ac maent yn gallu cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o bob oed archwilio er mwyn eu hysbrydoli a’r cefnogi i ddarganfod y lle arbennig hwn.

I gael cipolwg ar yr adnoddau a sut maent yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru, cliciwch yma.

Ein Tirwedd Genedlaethol Arbennig

Darganfyddwch pam fod yr ardal yn dirwedd warchodedig.

Exploring the Clwydian Range

Crwydro Bryniau Clwyd

Dysgwch fwy am dirwedd a nodweddion treftadaeth y gadwyn unigryw hon o gopaon.

Exploring the Dee Valley

Crwydro Dyffryn Dyfrdwy

Darganfyddwch fwy am y dirwedd hardd eiconig hon.

Art Inspired by Landscape

Celf wedi’i Ysbrydoli gan Dirwedd

Darganfyddwch sut mae ein tirweddau wedi ysbrydoli llenyddiaeth, paentio a cherddoriaeth dros ganrifoedd lawer.

Dee Valley People Past and Present

Pobl Dyffryn Dyfrdwy Ddoe a Heddiw

Dysgwch am y cymeriadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r Cwm hwn.

Pontcysyllte Aqueduct and Canal

Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

Darganfyddwch 6 bwndel dysgu arall i’ch helpu i archwilio’r ardal ymhellach.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.