Shopping Cart

No products in the cart.

Gwarchod

Sicrhau dyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gallwn ni i gyd gyfrannu at sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y Dirwedd Genedlaethol. Mae bod yn rhan o ddiogelu ardal mor arbennig â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gallu bod yn brofiad ysbrydoledig yn ogystal â gwneud i ni deimlo cysylltiad cryfach â’r byd naturiol o’n cwmpas.

Pwysigrwydd diogelu Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae Tirweddau Dynodedig yn gorchuddio 25% o Gymru ac maent yn cynnwys Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt). Mae pwysigrwydd y tirweddau hyn yn cael ei gydnabod yn fyd-eang.

Mae sawl her allweddol y bydd ein tirwedd a’n cymunedau yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod, ac mae’r pedair thema allweddol ganlynol yn adlewyrchu’r heriau hyn.

Natur, Tirwedd a Threftadaeth:

  • Mynd i’r afael â dirywiad mewn rhywogaethau ac effaith newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd a thirweddau yr Tirwedd Cenedlaethol.
  • Cadw’r nodweddion treftadaeth ddiwylliannol unigryw. 
  • Newidiadau mewn arferion rheoli tir.

Addasu i Hinsawdd sy’n Newid:

Cadernid nodweddion a rhinweddau arbennig yr Tirwedd Cenedlaethol o ran newid yn yr hinsawdd. Effaith debygol ein hymateb i newid yn yr hinsawdd ar odweddion a rhinweddau arbennig yr Tirwedd Cenedlaethol – gan sicrhau bod ein hymateb i newid yn yr hinsawdd yn ystyried yr angen i warchod ansawdd y irwedd. 

Hamdden, Iechyd a Lles:

  • Gwerth yr Tirwedd Cenedlaethol o ran cefnogi lles corfforol a meddyliol. 
  • Pwysau hamdden a thwristiaeth ar dirweddau sensitive a chymunedau gwledig. 

Yr Economi Wledig:

Cyfleoedd a heriau sy’n wynebu’r economi weledig o fewn y Dirwedd Genedlaethol o ran diwygio byd amaeth a gofynion addasu ar gyfer newid hinsawdd a’i liniaru.

Moel y Gaer Llantysilio

Newid Hinsawdd

Mae hi’n hawdd meddwl am newid hinsawdd fel problem sy’n effeithio corneli pella’r byd, ond mae’n argyfwng sydd eisoes yn cael effaith ar y Tirwedd Cenedlaethol.

Tree planting in the Clwydian Range and Dee Valley National Landscape

Gwaith Cadwraeth

Mae tîm y Dirwedd Genedlaethol yn arwain ac yn gweithio ar y cyd i gynnal amrywiaeth o brosiectau cadwraeth sy’n amddiffyn ac yn gwella rhinweddau unigryw Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Volunteers in the Dell at Plas Newydd

Ein Prosiectau

Mae tîm y Dirwedd Genedlaethol, ei bartneriaid a’n gwirfoddolwyr yn rhan o’r gwaith o gyflawni ystod eang o brosiectau.

Twristiaeth Gynaliadwy

Yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu twristiaeth gynaliadwy.

Volunteering in the Clwydian Range

Gwirfoddoli

Mae cyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn gonglfaen i’r gwaith o warchod a gwella rhinweddau arbennig y Tirwedd Cenedlaethol. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.