Shopping Cart

No products in the cart.

Gwaith Cadwraeth

Gweithio gyda’n gilydd i amddiffyn, gwella a dathlu’r hyn sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig.

Drwy’r flwyddyn, mae timau o staff, partneriaid a gwirfoddolwyr yn brwydro i warchod y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt sy’n gwneud ein Tirwedd Genedlaethol mor werthfawr.

Yn yr adran Darganfod a Chrwydro ar y wefan hon, gellwch ddarganfod mwy am y dreftadaeth, tirweddau a bywyd gwyllt unigryw sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lle mor arbennig.

Mae tîm y Dirwedd Genedlaethol yn arwain ac yn gweithio ar y cyd i gynnal amrywiaeth o brosiectau cadwraeth sy’n amddiffyn ac yn gwella rhinweddau unigryw Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Mae’r prosiectau yn amddiffyn rhinweddau amrywiol fel tirweddau, bywyd gwyllt, treftadaeth a diwylliant.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i fwy o bobl werthfawrogi harddwch yr ardal, ynghyd â’r gallu cynyddol i deithio yma, mae’r rheolwyr wedi cynnwys rhaglen o alluogi twristiaeth tra’n cydbwyso nifer cynyddol yr ymwelwyr gydag amddiffyn y dirwedd y maent wedi dod i’w fwynhau.

Rydym eisiau i bobl ddod i Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ond yn ogystal, rydym eisiau sicrhau fod pawb yn elwa, o’n cymunedau a busnesau lleol i brosiectau cadwraeth a mentrau amgylcheddol, ac wrth gwrs yr ymwelwyr eu hunain.

Llantysilio

Tanau gwyllt

Yma yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae amddiffyn ein hamgylchedd naturiol anhygoel rhag effaith drychinebus tanau gwyllt yn brif flaenoriaeth i ni.

Grazing Belted Galloway cattle

Pori Cadwraeth

Pori cadwraeth – ble mae anifeiliaid da byw yn cael eu defnyddio i reoli safleoedd er mwyn cynnyddu bywyd gwyllt yn yr ardal ac hyrwyddo bioamrywiaeth.

Contour bunding of peatland

National Peatland Action Programme

The Clwydian Range and Dee Valley National Landscape, celebrated for its rolling hills and rich cultural heritage, is also home to vital, yet often unseen, ecosystems: our peatlands.

volunteer picking balsam

Mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol

Rhywogaethau anfrodorol ymledol (rhywogaethau ymledol) yw planhigion neu anifeiliaid sydd wedi cael eu cyflwyno gan fodau dynol i gorneli o’r byd lle na fyddent i’w gweld yn naturiol.

Ash trees

Y Prosiect Coed Ynn

Coed Ynn yw’r 3edd coeden fwyaf cyffredin yn y DU. Mae dros 1000 o rywogaethau yn gysylltiedig â choed ynn, gyda 45 ohonynt wedi’u “rhwymo”, sy’n golygu eu bod yn...

A curlew

Curlew Connections Wales

Curlew Connections Wales is a wader conservation project supported by Welsh Government’s Nature Networks Fund, delivered by the Heritage Lottery Fund.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.