Shopping Cart

No products in the cart.

Milltiroedd Cymunedol

Mae mynd am dro yn aml yn golygu cerdded yn hamddenol ac edrych ar y golygfeydd deniadol!

Mae ein llwybrau Milltiroedd Cymunedol wedi’u dylunio gyda chymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd mewn golwg. Mae’n cymryd tua dwy awr i’w cwblhau ac yn eich cyflwyno chi i fusnesau lleol a llwybrau trafnidiaeth ar hyd y ffordd yn ogystal â datgelu trysorau cudd a gwella eich ffitrwydd (mae nifer y calorïau y byddwch yn eu llosgi ar bob taith wedi eu cyfrif).

Rydym wedi gwella’r llwybrau oedd eisoes yn bodoli gyda chamfeydd, gatiau a phontydd newydd ac wedi rhoi arwyddion arnynt i’w gwneud yn haws i’w ddilyn. Mae taflenni ar gael sy’n cynnwys map a gwybodaeth am yr hyn y byddwch yn ei weld ar y ffordd yn ogystal â syniadau ar gyfer cludiant lleol i fynd a chi at fan cychwyn y daith ac oddi yno wedyn ar y diwedd.

Llwybr Tyrnog Llandyrnog walk

Llandyrnog

Taith gerdded gylchol hyfryd 4.3 milltir o amgylch pentref Llandyrnog, sy’n cynnwys rhan o Ddyffryn Clwyd nas chwiliwyd fawr gan neb.

Llwybr Tremeirchion walk

Tremeirchion

Taith gylchol o Dremeirchion sy’n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda phanoramâu eang o Ddyffryn Clwyd.

Llwybr Bryn Heulog walk

Llwybr Bryn Heulog, Llangollen

Taith gylchol drawiadol 4.5 milltir o Llangollen sy’n dringo’n ddigon i ddarparu golygfeydd gwych o Fro Llangollen, yn ogystal â mwynhau llonyddwch y gamlas.

Llwybr Graigfechan walk

Graigfechan

Cylchdaith o bentref Graigfechan, sydd yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ac yn cynnwys golygfeydd o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt.

Llwybr Hanes Llangynhafal a Hendrerwydd History Walks

Llangynhafal and Hendrerwydd

Dewis o gylchdeithiau diddorol, sydd yn cynnwys Dyffryn Clwyd, Parc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’r llwybrau’n mynd heibio nifer o nodweddion hanesyddol, gan gynnwys wyth ffermdy gwag, ffynnon sanctaidd hudol a’r eglwys trawiadol Sant Cynhafal.

Llwybr Ceidiog walk

Ceidiog

Taith odidog o Landrillo ar draws ffermdir, coetir, llwybrau glan yr afon a chyfle i weld golygfeydd gwych ar hyd dyffryn Ceidiog.

Llwybr Yr Hen Rheilffordd The Old Railway walk

Yr Hen Rheilffordd

Mwynhewch tro hamddenol yn Nyffryn Dyfrdwy, ar hyd yr hen rheilffordd a’r gamlas ger Traphont Ddwr gwefreiddiol Pontcysyllte.

Llwybr Llandegla walk

Llandegla

Mae Llandegla yn bentref gwledig dymunol o fewn Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Y mae wedi’i ymgolli mewn hanes cyfoethog ac amrywiol, gyda gweddilion y gorffennol i’w gweld hyd heddiw.

Dod yn fuan Coming soon

Llanbedr Dyffryn Clwyd

Cylchdeithiau o bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Llwybr Betws Gwerfil Goch walk

Betws Gwerful Goch

Taith gerdded gylchol 2 milltir o bentref Betws Gwerful Goch.

Dod yn fuan Coming soon

Prestatyn

Taith gerdded gylchol o dref glan y môr Prestatyn yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Dod yn fuan Coming soon

Cilcain

Cylchdeithiau o bentref hanesyddol Cilcain yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Llwybr Clywedog Clwyd walk

Clywedog Clwyd

Taith gylchol 4.7 milltir yn Nyffryn Clwyd.

Llwybr Pendref Dinbych Denbigh Town walk

Pendref Dinbych

Taith gylchol yn Nyffryn Clwyd.

Llwybr Henllan walk

Henllan

Cylchdaith cerdded 4.2 milltir o bentref Henllan.

Llwybr Y Mwynglawdd Minera walk

Llwybr Y Mwynglawdd

Llwybr rhif 15. Taith gerdded ddiddorol o’r Mwynglawdd ar hyd llwybrau coediog hamddenol yn nyffryn Clywedog, gyda golygfeydd godidog o fynydd Esclus. Ardal o hanes mwyngloddio cyfoethog, mae’r enw Saesneg, Minera, yn deillio o’r gair Lladin canoloesol am fwynglawdd neu fwyn.

Llwybr Nannerch walk

Nannerch

Teithiau cerdded cylchol mewn ardal braf o Fryniau Clwyd. Mwynhewch golygfeydd dros fryniau Moel Arthur a Phenycloddiau, gyda mynediad hawdd at Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Llwybr Froncysyllte walk

Froncysyllte

Ymgollwch yn nhreftadaeth naturiol a diwydiannol Froncysyllte. Cerddwch ger y gamlas, Sa e Treftadaeth y Byd a’r odynau calch cyn esgyn i fwynhau’r golygfeydd panoramig o Ddy ryn Dyfrdwy drwy dir  erm a choetir.

Llwybr Garth walk

Garth

Taith gerdded o amgylch pentref Garth sy’n cyfuno tir erm, coetir a golygfeydd ysblennydd o Ddy ryn Dyfrdwy o’r Panorama.

Llwybr Nantglyn walk

Nantglyn

Dau lwybr cerdded yn dechrau o bentref tawel Nantglyn i fyny at fryniau sy’n amgylchynu’r pentref lle gellir mwynhau golygfeydd pell o Hiraethog a gogledd Bryniau Clwyd.

Llwybr Coed y Chreigiau Wood and Rocks walk

Coed a Chreigiau ac Craig Adwy-Wynt

Teithiau cylchol o amgylch pentrefi Pwllglas a Llanfair Dyffryn Clwyd.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau


This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.
This site is registered on Toolset.com as a development site.